Kinnock: Mynnu refferendwm arall yn pergylu trafodaethau

  • Cyhoeddwyd
Stephen Kinnock

Mae trafodaethau rhwng Llafur a llywodraeth Geidwadol Theresa May i geisio pasio ei chytundeb Brexit yn Nhŷ'r Cyffredin mewn perygl o fethu oherwydd bod Llafur yn mynnu refferendwm arall, yn ôl un AS o Gymru.

Dywedodd Stephen Kinnock, AS Aberafan, fod yr alwad am refferendwm arall yn peryglu chwalu unrhyw obaith o ddatrysiad.

Mae trafodaethau rhwng Llafur a'r llywodraeth ynglŷn â gadael yr UE wedi parhau am fis gydag ychydig iawn o lwyddiant.

Mae hanner y 28 AS Llafur o Gymru wedi galw am bleidlais gyhoeddus arall.

Yn ôl Syr Keir Starmer, llefarydd Llafur ar Brexit, fe fydd hi'n amhosib cael mwyafrif o blaid unrhyw fath o gytundeb Brexit heb fod addewid o refferendwm arall.

Ffynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o’r llun,

Yn wreiddiol roedd y DU i fod i adael yr Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawrth

Ond dywedodd Mr Kinnock wrth y BBC: "Rwy'n wirioneddol poeni mai'r rheswm pam nad yw'r trafodaethau yn dwyn ffrwyth yw oherwydd bod Llafur yn cyflwyno llinell goch newydd i'w gofynion - sef yr angen am refferendwm i gadarnhau'r penderfyniad.

"Fy safbwynt i yw na fydd y prif weinidog byth yn mynnu bod aelodau Ceidwadol yn cael eu chwipio i bleidleisio dros gytundeb o'r fath, ac felly mae gofyn am hynny gystal â thanio torpedo o ran rhoi unrhyw obaith o lwyddiant i'r trafodaethau."

Yn wreiddiol roedd y DU i fod i adael yr UE ar 29 Mawrth, ond cafodd hynny ei ohirio nes 31 Hydref ar ôl i Dŷ'r Cyffredin wrthod cytundeb Theresa May dair gwaith.