Damwain awyren Y Fenni: 'Diolch am ein helpu'
- Cyhoeddwyd
Mae un o'r teithwyr a oedd ar fwrdd yr awyren a losgodd yn ulw ger Y Fenni fore Sul wedi dweud eu bod nhw'n bobl lwcus iawn.
Roedd Jack Moore, Billie Manley a'r peilot Stuart Moore ar awyren fechan a laniodd ben i waered ar ffordd yr A40 rhwng Rhaglan a'r Fenni am 11:00 fore Sul, cyn mynd ar dân.
Cafodd y tri eu hachub gan deithwyr a oedd yn gyrru ar y ffordd adeg y ddamwain.
Bellach mae galwadau am i'r cyn-filwr a dynnodd y tri allan o'r tân i gael gwobr am ei ddewrder.
Dywedodd Jack Moore ar Facebook: "Mae'n hollol anhygoel fy mod i a fy nheulu wedi llwyddo i oroesi hwn, ac rydw i am ddiolch i'r holl yrrwyr a ddaeth i'n cynorthwyo ni a'r gwasanaethau brys.
"Mae llawer o storiau anghywir wedi cael eu rhannu gan sawl ffynhonnell, ond y prif neges ydy na chafodd unrhyw un ei anafu'n ddifrifol.
"Diolch yn fawr iawn am yr holl negeseuon.... rydyn ni'n bobl lwcus, lwcus iawn."
Mae Frank Cavaciuti, sy'n berchen ar lain lanio breifat i'r de o'r Fenni, wedi canmol dewrder Joel Snarr, un o'r rhai dynnodd y peilot a'r ddau deithiwr allan o'r awyren tra'r oedd hi ar dân.
"Mae e'n arwr, does dim dwywaith amdani, fe achubodd e fywydau'r tri," meddai Mr Cavaciuti.
"Ychydig bach iawn o amser oedd yna i dynnu'r tri allan, mae'n hollol wych ei fod e yna ar y pryd."
Dechrau ymchwiliad
Dywedodd Mr Cavaciuti ei fod wedi siarad gyda Mr Snarr, sy'n gyn-swyddog difa bomiau yn y Fyddin, wedi'r digwyddiad ac y dylai nawr gael ei enwebu ar gyfer gwobr dewrder.
"Fe ddigwyddodd y ddamwain mor sydyn," meddai, gan ddweud fod yr awyren wedi ffrwydro wrth iddo fynd ati a bod y gwres yn llethol.
"Do'n i ddim yn deall ar y cychwyn bod y tri wedi cael eu hachub, felly mae'n rhaid bod Mr Snarr wedi ymateb mor gyflym."
Roedd yr awyren Cirrus SR22, a oedd yn chwech oed, wedi hedfan i'r Fenni o Lundain yn gynharach y bore hwnnw.
Mae BBC Cymru'n cael ar ddeall bod y peilot, Stuart Moore, wedi glanio yn Y Fenni er mwyn casglu ei nith Billie Manley a'i nai Jack Moore.
Mae Cangen Ymchwilio Damweiniau Awyr wedi cychwyn ar eu gorchwyl o geisio darganfod beth yn union aeth o'i le.
Y gred ydy fod yr awyren wedi taro ceblau trydan cyn glanio ar ffordd ddeuol yr A40.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mai 2019