Tafwyl yn cadarnhau partneriaeth gyda gŵyl yn Llydaw

  • Cyhoeddwyd
ChromaFfynhonnell y llun, Tafwyl
Disgrifiad o’r llun,

Mae hi'n "fraint cael chwarae ar yr un llwyfan ag artistiaid o bob cwr o Ewrop", yn ôl Katie Hall o Chroma

Bydd bandiau o Gymru yn perfformio mewn gŵyl yn Llydaw fel rhan o bartneriaeth newydd rhwng Tafwyl a Chymdeithas Cyfeillion y Llydaweg.

Chroma yw'r grŵp sydd wedi eu dewis i fynd i chwarae yn Gouel Broadel ar Brezhoneg - sy'n cael ei chynnal bob dwy flynedd er mwyn dathlu'r iaith Lydaweg.

Fel rhan o'r bartneriaeth, bydd y band o Lydaw, UKAN yn chwarae yng ngŵyl Tafwyl tra bod Lleuwen yn ymddangos yn y ddwy.

Dywedodd llefarydd ar ran Tafwyl bod y berthynas hon "yn ffordd wych o ddangos y bwrlwm o ddiwylliannau creadigol, cyfoes a chyfoethog sydd gan y ddwy iaith i'w cynnig".

Dechreuodd y berthynas newydd yn dilyn ymweliad gan Mignoned ar Brezhoneg (Cyfeillion y Llydaweg) â gŵyl Tafwyl 2018.

Eu bwriad oedd edrych ar yr hyn sy'n cael ei wneud i hyrwyddo iaith mewn digwyddiadau ieithoedd lleiafrifol yn Ewrop, ac o hynny daeth y syniad o gyfnewid artistiaid er mwyn arddangos cerddoriaeth y ddwy iaith.

Ffynhonnell y llun, Tafwyl
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth criw o Gouel Broadel ar Brezhoneg ymweld â Tafwyl y llynedd

'Potensial anferth'

Dywedodd Katie Hall, prif leisydd Chroma, ei bod hi'n "fraint cael chwarae ar yr un llwyfan ag artistiaid o bob cwr o Ewrop sy'n rhannu'r un angerdd dros gyfansoddi mewn iaith leiafrifol".

"Mae'n bwysig ein bod yn gwneud pob ymdrech i ledaenu'r iaith yn Ewrop, oherwydd natur ansicr a pheryglon Brexit. Mae pob iaith a diwylliant yn haeddu cael eu deall a'u diogelu."

Bydd Lleuwen, sy'n byw yn Llydaw ar hyn o bryd, yn perfformio yn y ddwy ŵyl: "Dwi mor ddiolchgar bod y berthynas yma wedi ei sefydlu, achos mae o mor bwysig i ni rannu'r weledigaeth.

"Mae 'na gymaint allwn ni ddysgu ein gilydd, a photensial anferth i gyd weithio a chyd-ymhyfrydu yn y pethau sydd gyda ni'n gyffredin."

Ffynhonnell y llun, Tafwyl
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Tafwyl yn cael ei chynnal yng Nghastell Caerdydd ym mis Mehefin

Mae Tafwyl yn gobeithio adeiladu ar y bartneriaeth newydd tu hwnt i'r cynllun eleni, yn ôl un o drefnwyr yr ŵyl, Llinos Williams.

"Yn sicr y gobaith yw parhau i gydweithio gyda'r mudiad, gan efallai trefnu digwyddiadau a rhannu artistiaid ar hyd y flwyddyn nid yn unig yn y gwyliau," meddai.

Ychwanegodd: "Trafod a rhannu syniadau, gyda'r nod o ddysgu oddi wrth ein gilydd yw'r prif beth i ddod allan o'r bartneriaeth deud gwir, yna mae'r cyfnewid bandiau yn fonws!"

Mae Tafwyl, dolen allanol, a ddenodd torf o dros 40,000 o bobl y llynedd, yn cael ei chynnal yng Nghastell Caerdydd ar 21, 22 a 23 Mehefin.