Mark Reckless yn gadael grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-AC UKIP, Mark Reckless wedi cyhoeddi ei fod yn gadael grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad.
Dywedodd ar Twitter ei fod wedi gadael y grŵp am fod Llywodraeth y DU "wedi torri ei addewid i ddelifro Brexit".
Daw ei ymadawiad wrth i sibrydion gynyddu y bydd grŵp Brexit Party yn ffurfio yn y Cynulliad.
Er ei fod yn aelod o'r grŵp yn y Cynulliad, doedd Mr Reckless ddim wedi bod yn aelod o'r Blaid Geidwadol ers iddo adael yn 2014.
Cafodd ei ethol fel AC ar rhestr rhanbarthol UKIP.
Fe wnaeth Mr Reckless adael UKIP er mwyn ymuno â grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad ym mis Ebrill 2017.
'Cyfraniad gwerthfawr'
Dywedodd llefarydd ar ran Mr Reckless ei fod wedi gadael y grŵp Ceidwadol "ar dermau da".
Fe wnaeth arweinydd grŵp y Ceidwadwyr, Paul Davies ddiolch i Mr Reckless "am ei gyfraniad gwerthfawr" dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Ychwanegodd Mr Davies: "Rwy'n gwerthfawrogi bod yna safbwyntiau cryf ar Brexit ond mae ein hymrwymiad yn glir - mae'n rhaid i Gymru a gweddill y Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd."
Does dim cadarnhad y bydd grŵp Brexit Party yn ffurfio yn y Cynulliad, ond dywedodd un ffynhonnell bod ymadawiad Mr Reckless yn gam tuag at hynny.
Ond ychwanegodd y ffynhonnell nad oedd y grŵp yn sicrwydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mai 2019
- Cyhoeddwyd17 Mai 2018