Archwilydd yn caniatáu ehangu ffatri ddofednod Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Maelor Foods
Disgrifiad o’r llun,

Mae Maelor Foods yn mynnu y bydd y datblygiad yn creu o leiaf 80 o swyddi

Mae archwilydd cynllunio wedi gwrthdroi penderfyniad Cyngor Wrecsam a chymeradwyo cais i ehangu ffatri trin dofednod yn y dref.

Roedd cais Maelor Foods i ehangu'r gwaith ar eu safle yn ardal Cross Lanes wedi cael ei wrthod ddwywaith gan y cyngor.

Ond fe wnaeth y cwmni apelio yn erbyn hynny, ac maen nhw nawr wedi derbyn caniatâd i fwrw 'mlaen â'r cynllun.

Roedd trigolion yn poeni y byddai'r arogl o'r ffatri yn gwaethygu pe bai mwy na'r uchafswm presennol o 400,000 o adar yn cael eu trin yn wythnosol yn y ffatri.

Ond bydd gan Maelor Foods nawr ganiatâd i drin hyd at filiwn o anifeiliaid ar y safle pob wythnos.

Dibynnol ar welliannau ffyrdd

Roedd ymgyrchwyr yn poeni hefyd y byddai'r datblygiad yn creu problemau traffig ar yr A525, ond mae unrhyw ddatblygiad yn ddibynnol ar welliannau i rwydwaith ffyrdd yr ardal yn gyntaf.

Roedd y trigolion oedd yn gwrthwynebu'r cynllun wedi cael cefnogaeth eu haelodau Seneddol a Chynulliad - Susan Elan Jones a Ken Skates.

Mae Maelor Foods yn mynnu y bydd y datblygiad yn creu o leiaf 80 o swyddi newydd ac yn cyfrannu tua £100m i'r economi leol.

Cafodd y safle ei agor yn 2017, ac mae Maelor Foods yn rhan o gwmni prosesu Salisbury Poultry o ganolbarth Lloegr.

Fe gafodd yr apêl ei glywed ym mis Mawrth, ac fe wnaeth archwilydd cynllunio annibynnol - Hywel Wyn Jones - gyhoeddi ei benderfyniad i ganiatáu'r datblygiad ddydd Llun.