Dean Ryan yn ymuno â'r Dreigiau fel cyfarwyddwr rygbi
- Cyhoeddwyd
Mae Dean Ryan - a fu'n rhan bwysig o dîm Undeb Rygbi Lloegr - wedi cael ei benodi yn gyfarwyddwr rygbi'r Dreigiau.
Fel rhan o'i swydd bydd Ryan, 52, yn gyfrifol am holl faterion rygbi'r rhanbarth ar ac oddi ar y cae.
Mae'n gadael ei swydd fel pennaeth datblygiad chwaraewyr rhyngwladol gydag Undeb Rygbi Lloegr.
Bydd Ryan - sydd wedi hyfforddi clybiau fel Worcester Warriors, Caerloyw a Bryste - hefyd yn cymryd sedd ar fwrdd y Dreigiau.
"Roedd hi wastad am gymryd sialens unigryw i fy nenu'n ôl i amgylchedd clwb," meddai Ryan.
"Rwy'n hynod o gyffrous am yr hyn sydd o'n blaenau."
Cafodd y cyn-brop rhyngwladol, Ceri Jones ei enwi fel prif hyfforddwr dros dro'r Dreigiau ym mis Rhagfyr, ar ôl diswyddo Bernard Jackman.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2018