Ymchwiliad marwolaeth Ceredigion: Cyhoeddi enw dynes

  • Cyhoeddwyd
Mavis LongFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd teulu Mavis Long y bydd "colled enfawr ar ei hôl"

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dynes gafodd ei darganfod yn farw mewn tŷ yng Ngheredigion.

Cafodd corff Mavis Long, 77 oed, ei ddarganfod ym Mhennant ger Aberaeron ar 10 Mai.

Mae dyn 80 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, ac mae bellach wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.

Dywedodd yr heddlu nad oedden nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad, a bod yr ymchwiliad yn parhau.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i bentref Pennant ger Aberaeron ddydd Gwener

Mae'r digwyddiad yn un "gwbl ofnadwy", yn ôl teulu Ms Long, a ddywedodd y bydd "colled enfawr ar ei hôl".

Cafodd y broses o adnabod y corff yn swyddogol ei gwblhau fore Mercher, ac mae cwest i'r farwolaeth wedi cael ei agor a'i ohirio.

'Uchel eu parch'

"Mae unrhyw beth o'r math yma'n codi pryder i'r teulu," meddai Dafydd Edwards, cynghorydd sir ar gyfer ward Llansantffraid.

"Mae'r bobl sydd yn gysylltiedig wedi bod yn byw yn yr ardal ers dros chwarter canrif ac yn uchel eu parch yn yr ardal.

"Cydymdeimlad yw'r teimlad mwya' chi'n teimlo o fewn yr ardal - yn enwedig pobl oedd yn eu 'nabod nhw'n bersonol."