Cadarnhau enw dyn fu farw mewn damwain gleider
- Cyhoeddwyd
Mae crwner gogledd Cymru wedi cadarnhau enw'r dyn fu farw yn dilyn damwain gleider ym Mlaenau Ffestiniog.
Bu farw Nigel John Howes, 64 oed o Stockport ger Manceinion, yn y digwyddiad ar ddydd Sadwrn, 4 Mai.
Roedd Heddlu Gogledd Cymru wedi gyrru timau i chwilio amdano wedi iddo beidio â dychwelyd o daith, a cafwyd hyd i'r gleider a chorff Mr Howes.
Mae prawf post mortem wedi'i gynnal ac mae'r crwner Dewi Pritchard Jones yn disgwyl am y canlyniadau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mai 2019