Carcharu dynes am gam-drin bachgen ifanc yn rhywiol
- Cyhoeddwyd
Mae dynes o Wrecsam wedi cael ei dedfrydu i chwe blynedd a hanner o garchar am gam-drin bachgen ifanc yn rhywiol.
Roedd Miranda Parry, 42, wedi gwadu'r cyhuddiadau yn ei herbyn ond fe'i cafwyd yn euog gan reithgor yn Llys y Goron Yr Wyddgrug fis diwethaf.
Cafwyd yn euog o ymosod yn anweddus, ymddwyn yn anweddus a chreulondeb yn erbyn plentyn.
Roedd y cyhuddiadau'n dyddio'n ôl i 2000-01 pan roedd y diffynnydd yn ei 20au cynnar.
'Effaith sylweddol'
Dywedodd y barnwr David Hale bod y troseddau wedi cael "effaith sylweddol" ar y bachgen.
Ychwanegodd ei fod wedi cael blynyddoedd o gwnsela a chael trafferth ffurfio perthnasau.
Mewn fideo gafodd ei ddangos i'r llys o gyfweliad gyda'r heddlu, dywedodd y dioddefwr ei fod "yn dal i deimlo cywilydd ynghylch y peth".
Yn ôl yr erlyniad roedd Parry wedi cyffwrdd yn y bachgen yn anweddus a'i orfodi yntau i'w chyffwrdd hi.
Roedd yna honiad hefyd ei bod wedi ymosod yn anweddus arno ar un achlysur arall gyda chwistrell ar ôl dweud bod angen iddo gymryd ei feddyginiaeth.
Wedi adrodd sawl tro
Roedd y bachgen wedi dweud wrth ei fam ei fod yn cael ei gam-drin, ac fe gafodd yr achos i gyfeirio at wasanaethau cymdeithasol, ond dim ond ar ôl iddo fynd at yr heddlu yn 2017 y cafodd Parry ei harestio.
Roedd y dioddefwr wedi adrodd yr honiadau i'r awdurdodau ar sawl achlysur cyn hynny.
Bydd Parry yn gorfod cofrestru fel troseddwr rhyw am oes ac fe fydd hi'n destun gorchymyn atal niwed rhyw.
Mae hi hefyd wedi'i gwahardd rhag cysylltu â'r dioddefwr a'i fam byth eto.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2019