Cyfrifiad adar yn dangos cynnydd yn nifer y drycin Manaw ar ar Ynys Sgomer
- Cyhoeddwyd
Mae canlyniadau cyfrifiad o un o adar môr pwysicaf Cymru wedi dangos bod eu niferoedd wedi cynyddu 10%.
Mae Ynys Sgomer oddi ar arfordir Sir Benfro yn gartref i thua hanner poblogaeth y byd o adar drycin Manaw yn y gwanwyn a'r haf.
Mae'r cyfrifiad yn amcangyfrif tua 350,000 pâr o'r adar, sy'n bridio mewn tyllau ar yr ynys ac yna'n mudo i Dde America.
Mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru hefyd yn adrodd niferoedd iach o balod, gwylogod a gweilch y penwaig.
Roedd yr ymchwil yn cynnwys gwyddonwyr o brifysgolion Rhydychen a Chaerloyw a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a chafodd ei gynnal ar ynysoedd gerllaw hefyd, fel Ynys Sgogwm.
Yr amcangyfrif yw bod poblogaeth o 349,663 pâr - cynnydd o 10.6% o'i gymharu â'r amcangyfrif o 316,000 yn y cyfrifiad diwethaf yn 2011.
Mae'r cyfrifiad diweddaraf ar gyfer palod Sgomer - aderyn mwyaf adnabyddus yr ynys - wedi amcangyfrif 24,108 o adar.
Er bod hyn yn ostyngiad bychan ar niferoedd y llynedd, mae'r boblogaeth wedi treblu bron yn y 15 mlynedd ddiwethaf.
Fe wnaeth y cyfrifiad diweddaraf ar gyfer gwylogod (bron i 25,000) a gweilch y penwaig (7,500) ddangos cynnydd o 4% mewn niferoedd.
Er hyn mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru yn rhybuddio bod pryderon yn parhau am ostyngiad yn nifer yr adar môr yn fyd eang.
Mae hyn yn cynnwys effaith newid hinsawdd a niferoedd pysgod, ac mae ymchwil yn cael ei wneud hefyd ar effaith plastig mân ar ddrycin.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd24 Awst 2018
- Cyhoeddwyd11 Medi 2017