Wrecsam i drin gwastraff clinigol o'r Alban

  • Cyhoeddwyd
Gwastraff meddygolFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd gwastraff meddygol yn cael ei yrru o ysbytai'r Alban i Wrecsam

Bydd gwastraff clinigol ysbytai Yr Alban yn cael ei yrru i ogledd Cymru ar ôl i gwmni gwaredu gwastraff clinigol gael ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr.

Daw hyn wedi i Healthcare Environmental Services (HES) golli cytundeb gwerth miliynau o bunnoedd gyda gwasanaeth iechyd Yr Alban oherwydd sgandal yn ymwneud â phentyrru gwastraff meddygol.

Nawr bydd gwastraff bagiau melyn o ysbytai'r Alban - yn cynnwys eitemau fel nodwyddau meddygol - yn cael eu hanfon i ganolfan yn Wrecsam.

Cyhoeddodd Llywodraeth Yr Alban y bydd gwastraff bagiau oren hefyd yn cael eu trin dros dro yn Wrecsam.

Mae'r safle yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn eiddo i gwmni Sbaeneg - Tradebe Healthcare National.

Mae Llywodraeth Yr Alban wedi cytuno ar gytundeb gwaredu newydd gyda'r cwmni - a bydd y cytundeb yn dod i rym ym mis Awst.

Yn y dyfodol fe fydd gwastraff bagiau oren o'r Alban yn cael ei drin mewn safle newydd y mae'r cwmni ar fin ei agor yn Lanarkshire.

Fe aeth HES i ddwylo'r gweinyddwyr fis diwethaf. Cyn hynny, roedden nhw'n gyfrifol am wastraff pob ysbyty, meddygfa, deintyddfa a fferyllfa yn Yr Alban.