Ysgol Caerdydd am 'arwain y ffordd' ar iechyd plant
- Cyhoeddwyd
Bydd ysgol gynradd yng Nghaerdydd yn cynghori gweinidogion Llywodraeth Cymru yn dilyn ymdrech lwyddiannus i hybu iechyd disgyblion.
Pan agorwyd Ysgol Hamadryad ym mis Ionawr, roedd arweinyddion am gael effaith ar iechyd y disgyblion a'r amgylchedd drwy wneud newidiadau i'r ffordd yr oedd plant yn teithio i'r ysgol.
Yn ogystal â chynnig gwersi reidio beic a sgwter, cafodd y ffyrdd o amgylch y safle eu haddasu i rwystro parcio ac mae 'bws cerdded' hefyd ar gael.
Dywedodd y brif athrawes, Rhian Carbis, ei bod hi'n gobeithio gweld rhai o'r syniadau yn cael mabwysiadu gan ysgolion eraill, gydag Ysgol Hamadryad yn "arwain y ffordd".
Mae llwyddiant y cynlluniau yn golygu bod yr aer o amgylch yr ysgol yn cynnwys llai o fwg a bod pob plentyn yn dechrau'r dydd drwy gerdded hyd at 10 munud.
Mae cadeirydd llywodraethwyr yr ysgol, Dafydd Trystan, bellach wedi derbyn cais i ymweld â'r Cynulliad, yn ogystal â chynghori ysgolion eraill.
Ychwanegodd Ms Carbis: "Os gallwn ni ei wneud e fan hyn, gyda chyn lleied o staff, yna gall unrhyw un ei wneud e."
Mae'r ysgol yn ardal Tre Biwt wedi gweithio gyda rhieni a'r awdurdod lleol er mwyn cyflawni eu targedau.
Un o'r pethau cyntaf i'r ysgol ei wneud oedd addasu'r ffyrdd o gwmpas y safle i wella diogelwch, ond hefyd er mwyn annog rhieni i beidio â pharcio yn agos at yr adeilad.
Cafodd cynllun parcio a cherdded ei lansio - lle mae aelodau o staff yn cerdded i'r ysgol gyda'r plant o faes parcio cyfagos.
Mae rhieni wedyn yn talu £2.50 bob tymor er mwyn defnyddio'r maes parcio.
'Effaith tymor hir'
Mae mwyafrif helaeth y rhieni yn gefnogol iawn o'r cynllun, yn ôl Ms Carbis.
"Mae'r plant yn sgwrsio â'u ffrindiau ar y ffordd i'r ysgol, ac mae eraill sydd â phroblemau gyda gwahanu o'u rhieni wedi elwa'n fawr," meddai.
"Rydyn ni'n gobeithio datblygu ein plant i fod yn ddinasyddion sy'n deall yr effaith y maen nhw'n ei gael ar yr amgylchedd.
"Os gallwn ni helpu eu hannog i deithio i'r ysgol mewn ffordd iachus - gall hynny ond eu helpu yn y tymor hir."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2019