Ymgyrch i atal datblygu'r Mwmbwls ym Mae Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Langland
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bae Langland a safleoedd yn y Mwmbwls yn cael eu hystyried ar gyfer datblygiad

Mae cynlluniau i adeiladu ar nifer o safleoedd yn y Mwmbwls wedi ysgogi ymgyrch i wrthwynebu'r cynlluniau.

Mae Cyngor Abertawe wedi gwahodd mynegiant o ddiddordeb mewn pum safle ac fe allai hynny arwain at ddatblygu cyfleusterau gan gynnwys adeiladau cymunedol, tai bwyta a thoiledau cyhoeddus.

Mae gwrthwynebwyr wedi dechrau deiseb, sydd wedi denu 1,700 llofnod hyd yma.

Yn ôl Dirprwy Arweinydd Cyngor Abertawe, Clive Lloyd, mae hi'n gynnar yn y broses ond maen nhw'n "chwilio am syniadau gan unrhyw un allai eu cynnig".

"Rydym yn edrych ar beth allai berthyn yn chwaethus i'r ardal, sydd ddim yn amharu ar brydferthwch yr arfordir, ond sy'n cynnig rhywbeth i'r cyhoedd, twristiaid a thrigolion," meddai.

'Cystal â Bae Naples'

Ymhlith y safleoedd sy'n cael eu hystyried mae maes parcio Lon Sgeti, Lido Blackpill, tir wrth ymyl parc sglefrio West Cross, ardal tafarn West Cross, a dau gwrt tenis ym Mae Langland.

Mae nifer o drigolion lleol wedi eu cythruddo ac mae Michael Eames wedi dechrau deiseb fel rhan o'r ymgyrch i wrthwynebu'r cynlluniau.

"Rydym yn ceisio cadw'r olygfa sydd gennym ar hyn o bryd," meddai.

"Pan edrychwch chi dros Fae Abertawe mae'n rhyfeddol, does unman yn debyg iddo yn y byd.

"Mae rhai yn dweud ei fod cystal â Bae Naples ond mae pobl Abertawe yn meddwl ei fod yn well o lawer."

Dywedodd Cyngor Abertawe na fyddai'n ystyried unrhyw ddatblygiad allai "ddifetha" yr olygfa.

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar y defnydd o'r tir yn gorffen ar 10 Mehefin.