Cymru heb Ramsey ac Ampadu i herio Croatia a Hwngari

  • Cyhoeddwyd
Ethan Ampadu ac Aaron RamseyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ethan Ampadu ac Aaron Ramsey yn aelodau allweddol o ganol cae Cymru

Ni fydd dau o sêr tîm pêl-droed Cymru - Aaron Ramsey ac Ethan Ampadu - ar gael i herio Croatia a Hwngari yng ngemau rhagbrofol Euro 2020 fis nesaf.

Mae Ramsey, fydd yn ymuno â Juventus yn yr haf, yn dal i ddioddef gyda'r anaf ddioddefodd i'w goes ym muddugoliaeth Arsenal dros Napoli fis diwethaf.

Fe wnaeth Ampadu fethu buddugoliaeth Cymru dros Slofacia ym mis Mawrth gydag anaf i'w gefn, ac mae'n debyg bod y broblem honno'n parhau.

Bydd Cymru'n herio Croatia yn Osijek ar 8 Mehefin cyn teithio i wynebu Hwngari yn Budapest ar 11 Mehefin.

Cafodd Ramsey ac Ampadu eu gadael allan o garfan hyfforddi Cymru deithiodd i Bortiwgal ddydd Mercher, ond mae disgwyl i o leiaf pum chwaraewr arall gael eu hychwanegu i'r garfan fydd yn herio Croatia a Hwngari.

Y rheiny yw Ben Davies a Ben Woodburn, all chwarae rhan yn ffeinal Cynghrair y Pencampwyr ar 1 Mehefin, a Harry Wilson, Tom Lawrence a Neil Taylor, sy'n paratoi am ffeinal gemau ail-gyfle'r Bencampwriaeth ddydd Llun.

Bydd y rheolwr Ryan Giggs yn cyhoeddi'r garfan derfynol i wynebu Croatia a Hwngari ar ddydd Mercher, 29 Mai yn Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerdydd.