Person wedi marw wedi gwrthdrawiad yn Hwlffordd

  • Cyhoeddwyd
Cylchfan Pont FadlenFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cylchfan Pont Fadlen

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau bod person wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Hwlffordd ddydd Iau.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i gylchfan Pont Fadlen (Merlin's Bridge) am 11:30.

Mae'r ffordd rhwng cylchfan Horse Fair a chylchfan Pont Fadlen yn parhau ar gau.

Mae'r uned sy'n ymchwilio i wrthdrawiadau difrifol yn apelio i unrhyw un sydd â gwybodaeth i ffonio 101.