Bachgen yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad ger ysgol Llansawel

  • Cyhoeddwyd
Old RoadFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd y gwrthdrawiad ger Ysgol Carreg Hir yn Llansawel

Mae bachgen wedi ei gludo i'r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad ger ysgol fore Iau.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng car a cherddwr ger Ysgol Carreg Hir yn Llansawel, Castell-nedd Port Talbot.

Cafodd ambiwlans awyr, ambiwlans ffordd a cherbyd ymateb brys eu galw ychydig cyn 09:00.

Mae'r bachgen wedi ei gludo i Ysbyty Treforys yn Abertawe, ond does dim gwybodaeth am ei gyflwr.