Cyngor Powys wedi derbyn ceisiadau 'twyllodrus' am foeleri

  • Cyhoeddwyd
boelerFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Cyngor Powys incwm o bron i £232,000 mewn ffioedd am weinyddu cynllun ECO2

Mae cyngor sir wedi cymeradwyo ceisiadau "twyllodrus" am foeleri am ddim gan ei fod yn gyfle i wneud arian, yn ôl grŵp o blymwyr.

Mae Grŵp Plymwyr Powys (GPP) yn honni fod nifer o bobl wedi derbyn boeler am ddim gan Gyngor Sir Powys y llynedd er nad oedden nhw'n gymwys i'w dderbyn.

Yn ôl GPP, roedd asiantiaid yn cysylltu gydag unigolion ac yn annog "ceisiadau twyllodrus", heb fod yr unigolion yn ymwybodol eu bod yn twyllo.

Mae'r cyngor yn gwadu ei fod wedi'i gymell gan incwm ac yn dweud bod y cynllun wedi bod o fudd i drigolion y sir.

Roedd y boeleri yn rhan o gynllun ECO2 oedd fod i helpu pobl mewn tlodi tanwydd i wella effeithlonrwydd eu cartrefi.

Mae ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn grant gan y cwmnïau egni mawr i dalu am foeler newydd, ond cafodd y cynllun ei gamddefnyddio ym Mhowys oherwydd diffyg goruchwyliaeth gan y cyngor.

'Targedu'r taliadau uchaf'

Fe wnaeth GPP gwyn swyddogol am y cynllun oherwydd pryderon ynglŷn â'r ffordd roedd yn cael ei weithredu ac am fod y boeleri yn cael eu gosod gan gontractwyr o siroedd eraill.

Dywedodd Michael Jerman, llefarydd ar ran GPP: "Ein pryder gwreiddiol oedd bod llawer o bobl ar incwm canolig ac uwch yn clywed eu bod yn gymwys ar gyfer y cynllun, tra bod neb yn cysylltu gyda'n cwsmeriaid ar incwm is, a nhw oedd yn gymwys mewn gwirionedd.

"Roedd yn glir bod asiantiaid dim ond yn targedu pobl oedd yn gymwys i gael y taliadau uchaf posib er mwyn iddyn nhw gael yr incwm uchaf posib."

Byddai asiantiaid yn cysylltu â'r cyhoedd ac yn helpu i gwblhau'r broses ymgeisio, a doedd dim angen darparu unrhyw dystiolaeth eich bod mewn tlodi tanwydd.

Cyngor Powys
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd dros 2,000 o foeleri eu gosod ym Mhowys rhwng Ionawr a Medi 2018

Ar ôl i'r plymwyr gwyno fe gafodd archwilwyr eu comisiynu gan Gyngor Powys i ymchwilio i sut y cafodd cynllun ECO2 ei weinyddu yn y sir.

Yn ôl adroddiad yr archwilwyr, rhwng Ionawr a Medi 2018 cafodd dros 2,000 o foeleri eu gosod mewn cartrefi ym Mhowys.

Yn ystod yr un cyfnod, ar draws y DU, cafodd 15,500 o welliannau eu gwneud.

Mae hyn yn golygu bod 13% o'r holl welliannau wedi'u gwneud ym Mhowys - sir sydd â dim ond 0.2% o boblogaeth y DU.

Cafodd Cyngor Powys incwm o bron i £232,000 mewn ffioedd am weinyddu'r cynllun.

£150 pob tro

Roedd Cyngor Powys fod i wirio pob cais, ond mae Mr Jerman yn honni fod y cyngor wedi cymeradwyo nifer fawr o geisiadau er mwyn derbyn y ffi gweinyddu o £150 pob tro y byddai boeler newydd yn cael ei osod.

"Yn ein barn ni, cafodd Cyngor Powys ei ysgogi i gymeradwyo cymaint o geisiadau â phosib er mwyn sicrhau'r lefel uchaf posib o incwm i'w hun," meddai Mr Jerman.

"Ry'n ni wedi gweld dogfennau gan y cyngor ei hun sy'n cadarnhau ei fod yn bwriadu gwneud incwm sylweddol o'r cynllun hwn a'r cynllun nesaf, ECO3."

Yn ôl yr archwilwyr doedd Cyngor Powys ddim wedi gwirio'r ceisiadau yn ddigon trylwyr.

Doedd dim tystiolaeth bod unrhyw swyddogion wedi twyllo, ond trwy fethu â gwirio ceisiadau doedd prosesau'r cyngor "ddim yn atal ceisiadau twyllodrus rhag cael eu cymeradwyo".

'Incwm ddim yn gymhelliant'

Dywedodd y Cynghorydd James Evans: "Doedd y cyngor ddim wedi'i gymell gan yr incwm.

"Pan mae cynghorwyr yn gwneud penderfyniadau ry'n ni'n eu gwneud er lles y trigolion, ac mae'r cynllun hwn wedi bod o fudd i drigolion Powys trwy eu tynnu nhw allan o dlodi tanwydd.

"Dyna'r rheswm am gynnig y cynllun ECO. Rwy'n credu bod rhywrai wedi camddefnyddio'r cynllun ac ry'n ni'n dysgu gwersi o hynny. Bydd system llawer fwy llym mewn lle y tro nesaf."