Dyn 71 oed wedi marw ar ôl ymosodiad yn Y Borth

  • Cyhoeddwyd
Lewis StoneFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed Powys
Disgrifiad o’r llun,

Mae dyn 21 oed wedi ei gyhuddo mewn cysylltiad â'r ymosodiad ar Lewis Stone

Mae'r heddlu wedi cadarnhau bod dyn wedi marw yn dilyn ymosodiad yng Ngheredigion ym mis Chwefror.

Cafodd Lewis Stone, 71, ei drywanu wrth fynd â'i gi am dro ger sŵ Wild Animal Kingdom yn Y Borth ar 28 Chwefror.

Bu farw Mr Stone o'i anafiadau yr wythnos hon - bron i dri mis wedi'r ymosodiad.

Mae David Kenneth Fleet, 21 oed o'r Borth, wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio a bod â chyllell yn ei feddiant.

Mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau.