Llofruddiaeth bwa croes: Heddlu'n holi teithwyr
- Cyhoeddwyd
Dros nos mae plismyn wedi bod yn siarad â dau ddeg pump o bobl wrth i dditectifs barhau i ymchwilio i lofruddiaeth dyn gafodd ei saethu â bwa croes.
Bu farw Gerald Corrigan, 74, rai wythnosau wedi iddo gael ei saethu y tu allan i'w gartref ar gyrion Caergybi yn oriau mân 19 Ebrill.
Cafodd cerbydau, seiclwyr a cherddwyr a oedd yn teithio ar hyd ffordd Ynys Lawd - ger cyffordd ffordd Porthdafarch a ffordd Plas - eu stopio gan yr heddlu rhwng 22:00 ddydd Iau a 04:00 ddydd Gwener.
Bydd adolygiad o'r wybodaeth gafodd ei chasglu yn digwydd, tra bod tîm archwilio tanfor yn chwilio'r arfordir ger y digwyddiad.
'Angen eich cymorth'
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Brian Kearney, o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae'n bwysig i ni gael hyd i dystion a phobl a allai fod â gwybodaeth i gynorthwyo ein hymchwiliad.
"Rydym yn ceisio dod o hyd i unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â'r dioddefwr - gwybodaeth a allai esbonio sut cafodd Gerald yr anafiadau a arweiniodd at ei farwolaeth.
"Rwy'n ddiolchgar iawn i'r cyhoedd am eu cymorth a'u cefnogaeth hyd yma.
"Fodd bynnag, un neu ddau aelod allweddol o'r cyhoedd yw'r ateb i'r drosedd hon sy'n gwybod neu sydd ag amheuon am bwy ydy'r person neu'r bobl dan sylw."
Ychwanegodd: "Rydym ni angen eich cymorth chi. Siaradwch gyda fi a fy nhîm mewn ymddiriedaeth lwyr."
Roedd Mr Corrigan wedi bod yn byw ar Ynys Môn ers 20 mlynedd ar ôl ymddeol fel darlithydd ffotograffiaeth a fideo.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth am y digwyddiad ffonio 101.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mai 2019