Galw am dreth ar lefydd parcio cwmnïau mewn dinasoedd

  • Cyhoeddwyd
Maes parcioFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn Nottingham mae cwmnïau sydd â mwy na 10 o lefydd parcio yn gorfod talu £400 y flwyddyn am bob un

Dylid ystyried gosod treth ar nifer y llefydd parcio sydd gan fusnesau mawr yn ninasoedd Cymru, yn ôl elusen.

Dywedodd Sustrans Cymru y gallai cynghorau godi treth yn seiliedig ar faint o lefydd parcio sy'n cael ei ddarparu i staff, ac y gallai hynny godi arian ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus ac annog pobl i beidio defnyddio ceir.

Byddai'r busnesau naill ai yn gallu talu'r dreth eu hunain neu ei phasio hi ymlaen i'r staff sy'n gyrru i'r gwaith.

Ond mae busnesau yn dweud y gallai'r syniad atal cwmnïau rhag buddsoddi yn ninasoedd Cymru.

Esiampl Nottingham

Mae gan gynghorau yng Nghymru a Lloegr y pŵer i gyflwyno treth ar barcio yn y gweithle.

Nottingham yw'r unig gyngor sy'n gwneud hynny - mae cwmnïau sydd â mwy na 10 o lefydd parcio yn gorfod talu £400 y flwyddyn am bob un.

Mae hynny wedi helpu codi £50m ar gyfer prosiectau trafnidiaeth ers cael ei gyflwyno yn 2012, ac mae'r cyngor yn dweud ei fod wedi helpu o ran cyrraedd eu targed i leihau allyriadau hefyd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sustrans Cymru yn dweud y byddai'r dreth yn helpu ariannu trafnidiaeth gyhoeddus

Dywedodd cyfarwyddwr Sustrans Cymru, Steve Brooks wrth raglen Sunday Politics Wales y gallai cynllun tebyg i'r un yn Nottingham weithio yn ninasoedd Cymru.

"Mae'r dreth ar barcio yn y gweithle yn gweithio mewn llefydd dinesig, felly dylid ei hystyried mewn llefydd fel Caerdydd, Abertawe, Casnewydd a Wrecsam," meddai.

"Yr hyn y dylen ni fod yn gwneud yw defnyddio'r arian allai gael ei godi trwy wneud hynny a'i fuddsoddi yn ôl i'r system drafnidiaeth fel bod gan bobl opsiynau gwirioneddol i gael allan o'u ceir."

'Gwella'r isadeiledd'

Ond dywedodd Ian Price o CBI Cymru, pe bai'r dreth yn cael ei chyflwyno gan gynghorau Cymru, y gallai wneud dinasoedd Cymru'n llai deniadol i fusnesau.

"Roedd Nottingham yn ddinas orlawn ofnadwy, ond dydw i ddim yn meddwl ein bod wedi cyrraedd y lefel yna eto yng Nghaerdydd ac Abertawe," meddai.

"Ar y funud byddai'n well gen i ein gweld yn gwella'r isadeiledd, gwella'r ffyrdd sydd gennym ni eisoes, gwella trafnidiaeth gyhoeddus ac edrych ar ffyrdd eraill o'u hannog i'r ddinas, yn hytrach na cheisio codi tâl ar bobl."

Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru nad oedd yn ymwybodol o unrhyw gyngor sydd â chynlluniau i gyflwyno treth o'r fath.

Sunday Politics Wales, BBC One Wales 11:00 ar 26 Mai ac yna ar yr iPlayer.