Storm yn datgelu 'Cantre'r Gwaelod' yng Ngheredigion
- Cyhoeddwyd
Mae coedwig hanesyddol wedi dod i'r amlwg yng Ngheredigion yn sgil tywydd garw Storm Hannah ar ddiwedd mis Ebrill.
Y gred yw bod y goedwig, rhwng Ynyslas a'r Borth, wedi cael ei chladdu o dan ddŵr a thywod dros 4,500 o flynyddoedd yn ôl.
Mae'r goedwig wedi cael ei chysylltu â Chantre'r Gwaelod - gwlad mewn chwedloniaeth Gymreig a foddwyd gan y môr.
Mae gweddillion y coed wedi cael eu datgelu gan lanw isel a gwyntoedd cryfion yn sgil Storm Hannah.
Yn ôl un fersiwn o'r chwedloniaeth roedd Cantre'r Gwaelod yn ymestyn rhyw 20 milltir i'r gorllewin o'r hyn sydd nawr yn Fae Ceredigion.
Yr hanes yw bod llifddorau Cantre'r Gwaelod dan ofal Seithenyn, wnaeth feddwi mewn gwledd ac anghofio eu cau, gan foddi'r holl wlad.