Ymprydiwr yn dod â'i streic newyn i ben
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchydd yng Nghymru sydd wedi bod yn ymprydio am roi terfyn ar garchariad arweinydd Cwrdaidd wedi dod â'i streic newyn i ben.
Roedd Imam Sis wedi bod heb fwyd am 161 o ddiwrnodau fel rhan o ymgyrch ymprydio byd-eang.
Mae'r ymprydwyr yn gwrthwynebu y ffordd y mae Abdullah Ocalan wedi bod yn cael ei drin yn Nhwrci.
Ocalan yw sefydlydd Plaid Gweithwyr Cwrdistan (PKK) sy'n cael ei ystyried yn sefydliad terfysgol gan lywodraeth y DU.
Ddydd Sul fe alwodd Ocalan ar filoedd o ymgyrchwyr ar draws y byd i ddod â'i streic newyn i ben.
Fe ddaeth ei alwad wedi iddo gael ymweliad gan gyfreithwyr - yr ymweliad cyntaf mewn wyth mlynedd.
Fe ddechreuodd Mr Sis ymprydio ym mis Rhagfyr y llynedd yn dilyn gweithredu gan Leyla Güven, aelod etholedig o Senedd Twrci ac eraill.
Roedd Ms Güven wedi dadlau bod ynysu Ocalan a pheidio â chaniatáu iddo gael ymweliad gan deulu a chyfreithwyr yn rhwystr rhag parhau i gael heddwch yn Nhwrci.
Dywedodd llefarydd nad oedd Imam Sis wedi bod yn symud o'i wely am ei fod mor wan ond ei fod wedi gofyn am ei baned cyntaf o de wedi iddo glywed y newyddion am ymweliad cyfreithwyr ag Ocalan.
Bydd cyflwr iechyd Mr Sis yn cael ei asesu yn yr ysbyty ddydd Sul.
Cafodd ympryd Mr Sis a'r sefyllfa yn Nhwrci eu trafod gan Aelodau Cynulliad ym mis Mawrth.
Wedi i aelodau Plaid Cymru godi'r mater fe gefnogodd Aelodau Cynulliad gynnig a oedd yn nodi bod Abdullah Ocalan yn cael ei drin yn annheg.
Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Delyth Jewell, AC Plaid Cymru ei bod yn falch dros ei chyfaill Imam bod y streic newyn ar ben a diolchodd i bawb a fu'n helpu i godi ymwybyddiaeth am yr ymgyrch.