Cyn-swyddog rygbi yn cyfaddef treisio plentyn dan 13
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-gyfarwyddwr Clwb Rygbi Treforys wedi pledio'n euog i dreisio merch dan 13 oed.
Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Vincent Matthews, 56 o Dreforys, wedi treisio'r ferch chwe gwaith.
Plediodd yn euog hefyd i ddau gyhuddiad o geisio treisio plentyn dan 13 oed.
Fe ddigwyddodd y troseddau rhywbryd rhwng 2017 a Chwefror 2019.
Cafodd ei benodi yn gyfarwyddwr Clwb Rygbi Treforys yn Ebrill 2017, ond fe ymddiswyddodd yn gynharach y mis hwn.
Archwilio tystiolaeth ffôn
Yn y llys ddydd Mawrth siaradodd Matthews i gadarnhau ei fanylion cyn pledio'n euog i'r wyth cyhuddiad yn ei erbyn.
Dywedodd y barnwr Mr Ustus Thomas y byddai'n gohirio ei ddedfrydu er mwyn i gofnodion o sgyrsiau ffôn rhwng Matthews a'r ferch gael eu harchwilio'n fanwl "er mwyn canfod faint o rym oedd wedi ei ddefnyddio".
Bydd Matthews yn cael ei gadw yn y ddalfa tan iddo gael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ar 21 Mehefin.
Cafodd orchymyn i arwyddo'r Gofrestr Troseddwyr Rhyw.