Bwriad yr Urdd i gynnal Eisteddfod ym Machynlleth 2022

  • Cyhoeddwyd
MachynllethFfynhonnell y llun, Matt Cardy

Mae'n fwriad gan yr Urdd i gynnal Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2022 ym Machynlleth.

Bydd 2022 yn nodi canrif ers sefydlu'r Urdd gan Syr Ifan ab Owen Edwards yn 1922.

Bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yng Nglantwymyn ar 19 Mehefin i gadarnhau'r penderfyniad.

Mae'r Eisteddfod yn ymweld â Sir Ddinbych yn 2020, a Sir Gaerfyrddin yn 2021.

1988 oedd y tro diwethaf i'r Urdd gynnal yr Eisteddfod yn ardal Maldwyn, lle enillodd Tudur Dylan gadair yr Urdd.

Wrth drafod y syniad, dywedodd Cadeirydd yr Urdd, Dyfrig Davies, bod Machynlleth yn "ddewis da gan ei fod yn ganolbwynt i Gymru".