Tate Modern 'fel ail gartref' i rai o blant y Cymoedd

  • Cyhoeddwyd
Plant y Cymoedd yn Tate ModernFfynhonnell y llun, Jason Camilleri
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r profiad yn un all "newid bywydau'r bobl ifanc sy'n rhan ohono", yn ôl un o arweinwyr y prosiect

Mae pobol ifanc o gymoedd y de yn cymryd rhan mewn tridiau o weithgareddau celfyddydol yn un o brif orielau'r Deyrnas Unedig, a hynny am y drydedd flwyddyn yn olynol.

Symud & Symudiadau - Gwleidyddiaeth, Lle a Phobl yw thema rhaglen prosiect Plant y Cymoedd yn oriel Tate Modern, yn Llundain sydd ymlaen hyd at ddydd Gwener.

Mae'r gweithgareddau'n cynnwys "perfformiadau, protestiadau a gweithdai a mewnosodiadau rhyngweithiol" ac yn rhan o ymdrechion yr oriel i helpu mwy o bobl i gymryd rhan yn y celfyddydau.

Dywedodd un o'r bobl ifanc sy'n cymryd rhan bod y cael perfformio "mewn lle mor fawreddog" gyda'i ffrindiau yn "golygu popeth" iddo.

Ffynhonnell y llun, Jason Camilleri
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhesymau dros fudo neu aros yn yn unfan yn rhan ganolog o weithgareddau'r bobl ifanc yn Llundain

Sparc yw enw prosiect celf Plant y Cymoedd, elusen sy'n ceisio gwella bywydau plant a theuluoedd yn Rhondda Cynon Taf, a Sparc yw'r unig brosiect o Gymru sy'n rhan o gynllun Tate Exchange, a gafodd ei sefydlu yn 2016.

Mae'r oriel yn disgrifio'r cynllun fel "arbrawf agored sy'n galluogi mudiadau eraill ac aelodau'r cyhoedd i gymryd rhan ym mhroses greadigol y Tate, i gynnal digwyddiadau a phrosiectau ar y safle a defnyddio celf fel ffordd o ymdrin â materion ehangach yn y byd o'n cwmpas".

Gadael - ac aros

Dan arweiniad artist preswyl Sparc, Anne Culverhouse Evans, mae'r bobl ifanc o Gymru yn helpu cyflwyno'r arlwy mewn rhan neilltuol o'r oriel.

Mae darn o waith dan y teitl 'Gadael Hebddaf I' yn archwilio pam mae pobl yn penderfynu naill ai i symud a ffoi neu aros ble maen nhw, ac i ba raddau mae pobl yn cyrraedd y cyrchfan o'u dewis.

Mae'r bobl ifanc yn gofyn i ymwelwyr yr oriel rannu eu profiadau mewn perfformiadau, gweithdai a sgyrsiau.

Ffynhonnell y llun, Jason Camilleri
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r bobl ifanc yn cyflwyno perfformiad 15 munud o hyd ddwywaith y dydd

Dywedodd cyfarwyddwr creadigol Sparc, Miranda Ballin eu bod wedi cyffroi o gael dychwelyd i'r Tate am y drydedd blwyddyn,

"I rai o fewn ein grŵp, mae'r Tate yn dechrau teimlo fel ail gartref," meddai. "I eraill dyma'r tro cyntaf iddyn nhw berfformio erioed neu roi troed trwy'r drysau.

"Dyma nod Tate Exchange - mae'n ofod cynhwysol sy'n ein cefnogi i gymryd risgiau ac arbrofi.

"Mae'n brofiad all newid bywydau'r bobl ifanc sy'n rhan ohono."

Dywedodd un o'r bobl ifanc, Levi ei fod "bach yn nerfus" wrth feddwl am berfformio yn Llundain.

"Mae'r cyfle i fynd i'r Tate eleni yn golygu popeth imi," meddai. "Rwy'n cael perfformio mewn lle mor fawreddog gyda fy ffrindiau a chael profiad o syniadau a perspectives pobol eraill."