Pedwar chwaraewr sydd heb gap yng ngharfan Cymru

  • Cyhoeddwyd
GiggsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Cymru'n teithio i Groatia ar 8 Mehefin cyn mynd ymlaen i Hwngari ar 11 Mehefin

Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Ryan Giggs wedi enwi carfan o 28 ar gyfer gemau rhagbrofol Euro 2020 yn erbyn Croatia a Hwngari fis nesaf.

Mae pedwar chwaraewr sydd heb ennill cap wedi eu cynnwys yn y garfan, sef yr amddiffynwyr Ben Williams (Barnsley) a Joe Rodon (Abertawe), y chwaraewr canol cae ifanc Dylan Levitt (Manchester United) a'r ymosodwr o Barnsley, Kiefer Moore.

Bydd Cymru'n teithio i Groatia ar 8 Mehefin cyn mynd ymlaen i Hwngari ar 11 Mehefin.

Mae Ethan Ampadu yn y garfan er gwaetha pryderon am anaf sydd ganddo, ac mae asgellwr Abertawe, Dan James yn ôl wedi iddo orfod gadael y garfan ymarfer yn dilyn marwolaeth sydyn ei dad yr wythnos ddiwethaf.

Ond ni fydd Ben Davies nac Aaron Ramsey yn y garfan. Roedd anaf Ramsey'n wybyddus yn barod, ond mae clwb Ben Davies, Spurs yn dweud eu bod am asesu anaf sydd gan Ben Davies yn syth ar ôl rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr dros y penwythnos.

Fe fydd Ryan Giggs yn cynnal cynhadledd newyddion yn ddiweddarach ar faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghaerdydd.

Y garfan yn llawn:

Golwyr:

Wayne Hennessey (Crystal Palace), Danny Ward (Leicester City), Adam Davies (Barnsley);

Amddiffynwyr:

Ashley Williams (Stoke City ar fenthyg o Everton), Neil Taylor (Aston Villa), Chris Mepham (Bournemouth), Chris Gunter (Reading), Connor Roberts (Abertawe), Ben Williams (Barnsley), Ethan Ampadu (Chelsea), Joe Rodon (Abertawe), Tom Lockyer (Bristol Rovers), James Lawrence (Anderlecht);

Canol Cae:

Joe Allen (Stoke), Jonny Williams (Charlton Athletic), Will Vaulks (Rotherham United), David Brooks (Bournemouth), Matt Smith (Manchester City), Dylan Levitt (Manchester United), Daniel James (Abertawe);

Blaenwyr:

Gareth Bale (Real Madrid), Ben Woodburn (Lerpwl), Harry Wilson (Derby County ar fenthyg o Lerpwl), Tom Lawrence (Derby County), Rabbi Matondo (Schalke 04), George Thomas (Scunthorpe United ar fenthyg o Leicester City), Sam Vokes (Stoke), Kiefer Moore (Barnsley).

Anafiadau yn 'siom'

Bydd cynhadledd newyddion Giggs yn cael ei gynnal am 11:00 fore Mercher, ond roedd yr is-hyfforddwr Osian Roberts yng nghynhadledd newyddion Eisteddfod yr Urdd, a dywedodd:

"'Da ni wedi cael wythnos dda yn Portiwgal... 'di bod yn ymarfer a 'di cael gwaith da. 'Da ni'n hyderus y gallwn ni gael dwy gêm dda yr wythnos nesaf."

Wrth ymateb i absenoldeb Ben Davies ac Aaron Ramsey o'r garfan oherwydd anafiadau, ychwanegodd: "Ia, anafiadau yn anffodus sydd yn golygu na fydd y ddau yn gallu bod yn rhan o'r garfan y tro yma.

"Siom o ran hynny, achos maen nhw di bod yn chwaraewyr hollbwysig i ni, ond ma' gynnon ni garfan gref, ac mae 'na chwaraewyr eraill da yn cael cyfle i gymryd rhan.

"'Da ni angen pawb sydd yn y garfan."