Cynllun Hawl i Brynu yn dod i ben yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
TaiFfynhonnell y llun, PA

Mae cynllun Hawl i Brynu, sy'n galluogi i bobl brynu eu tai cyngor am bris gostyngol, yn dod i ben yng Nghymru ddydd Sadwrn.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2017 y byddai'r trefniant yn dod i ben.

Cafodd y polisi ei gyflwyno gan lywodraeth Geidwadol Margaret Thatcher yn 1980, ac ers hynny mae dros 139,000 o gartrefi wedi cael eu gwerthu yng Nghymru trwy ddefnyddio Hawl i Brynu.

Roedd y cynllun yn cynnig gostyngiad mewn pris o hyd at 70% - yn ddibynnol ar ba mor hir roedd tenant wedi bod yn byw yn eu cartref.

Mae hynny wedi lleihau i ostyngiad o £8,000 yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf.

230,000 o dai cyngor

Mae nifer y tai cyngor yng Nghymru wedi gostwng i 230,000 bellach - gostyngiad o 45% ers i'r polisi gael ei gyflwyno.

Roedd Hawl i Brynu eisoes wedi'i atal yn Abertawe, Caerdydd, Powys, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Sir Gâr ac Ynys Môn.

Mae angen i bobl sy'n gymwys ar gyfer y cynllun, ac sydd eisiau prynu eu cartrefi, gwblhau ffurflen gais erbyn diwedd dydd Sadwrn.

Dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James, y byddai dod â'r cynllun i ben yn sicrhau na fyddai nifer y tai cyngor yn lleihau ymhellach.