Grantiau i fyfyrwyr rhan amser yn cael effaith 'bositif'
- Cyhoeddwyd
Yn ddi-waith ac yn ddigartref yn Llundain, roedd arian ychwanegol ar gyfer astudio'n rhan amser yn allweddol wrth ddenu Heledd Campbell 'nôl i Gymru am fywyd mwy sefydlog.
Roedd Ms Campbell, 22 oed o Ddyffryn Aman, wedi bod yn dioddef o broblemau iechyd meddwl pan welodd hysbyseb ar Facebook ynglŷn â chefnogaeth ariannol newydd.
Eleni, mae myfyrwyr rhan amser wedi gallu hawlio cymorth cyfatebol i'r hyn sydd ar gael i fyfyrwyr llawn amser gan gynnwys grant tuag at gostau byw.
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae'n dangos bod eu pecyn cymorth newydd i fyfyrwyr yn cael effaith bositif.
Mae ffigyrau gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn dangos cynnydd o 35% yn nifer y myfyrwyr sydd wedi derbyn cymorth ariannol i astudio rhan amser eleni.
Daw hynny wedi gostyngiad o 45% yn nifer yr israddedigion rhan amser ym mhrifysgolion Cymru dros y degawd diwethaf.
'Sownd yn Llundain'
Dywedodd Ms Campbell: "Roeddwn i'n teimlo fel 'mod i'n sownd yn Llundain.
"Allwn i ddim fforddio astudio ac roeddwn i'n gweithio mewn swyddi cyflog isel ac roedd rhaid i mi weithio llawer o oriau i dalu fy rhent."
Ond aeth pethau o ddrwg i waeth pan fu'n rhaid iddi roi'r gorau i'w gwaith oherwydd salwch, a hynny'n arwain at fethu talu am lety.
Treuliodd chwe mis yn cysgu ar soffa gwahanol ffrindiau gan hyd yn oed dreulio ambell noson heb lety o gwbl.
"Gwaethygodd fy mhroblemau iechyd meddwl ac roeddwn i'n ddigartref," meddai.
Dechreuodd Ms Campbell astudio am radd rhan amser mewn seicoleg drwy'r Brifysgol Agored ym mis Hydref.
Cafodd y penderfyniad i ddychwelyd i orllewin Cymru ei ysgogi gan weld hysbyseb am gymorth newydd oedd yn cael ei gynnig i fyfyrwyr rhan amser.
Ei bwriad yw parhau i astudio ar ôl cwblhau ei gradd ac yn y pendraw gwneud swydd sy'n adeiladu ar ei phrofiad personol.
"Dwi'n gallu astudio, gweithio rhan amser ac edrych ar ôl fy iechyd meddwl ar yr un pryd," meddai.
"Dwi'n gwybod 'mod i eisiau cefnogi pobl gyda phroblemau iechyd meddwl hefyd."
Mae ffigyrau cynnar gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn dangos bod 6,100 o fyfyrwyr rhan amser wedi derbyn benthyciadau neu grantiau hyd yn hyn eleni, o'i gymharu â 4,500 ar yr un pryd y llynedd.
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams: "Rydyn ni wedi dweud bob amser mai costau byw uchel yw'r prif rwystr i fyfyrwyr wrth ystyried mynd i'r brifysgol.
"Fe gafodd ein pecyn cymorth ei ddylunio'n benodol i fynd i'r afael â'r pryderon hyn, i'w gwneud yn haws i bobl astudio'n rhan-amser, yn enwedig os oes ganddynt ymrwymiadau gwaith neu deuluol."
'Cymorth teg i fyfyrwyr'
Dywedodd y Brifysgol Agored ei bod wedi gweld cynnydd o 40% yn nifer ei hisraddedigion newydd yng Nghymru yn 2018/19.
"Am nifer o flynyddoedd mae pobl efallai'n teimlo nad yw astudio rhan amser wedi cael yr un hygrededd ag astudio llawn amser," meddai Rhodri Davies o'r Brifysgol Agored yng Nghymru.
"Ni'n falch bod y sefyllfa'n dechrau newid nawr ac mae'r ffaith bod cymorth teg ar gael i fyfyrwyr rhan-amser yn adlewyrchu hynny."
Mae'r cynnydd i'w groesawu yn ôl cyn is-ganghellor Prifysgol South Bank yn Llundain, yr Athro Syr Deian Hopkin, ond dywedodd bod nifer o gwestiynau'n parhau.
"Y cwestiwn mawr ydy i ba sefydliadau maen nhw nawr yn ymaelodi?" meddai.
"Mae'r Brifysgol Agored yn sicr wedi elwa o hyn. Ond a ydy hyn ar draws prifysgolion?
"Ydy hyn yn golygu bod y gostyngiad ry' ni wedi gweld mewn rhai prifysgolion mewn myfyrwyr amser llawn, ydy myfyrwyr rhan amser yn dod 'nôl i'r llefydd hynny? Ac i ba bynciau?"
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mai 2019
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2019