Y capten fu'n achub ffoaduriaid

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Anne Howells yn gweithio ar fwrdd fferi rhwng Llansteffan a Glanyfferi yn Sir Gâr

Ar ôl treulio sawl blwyddyn yn gweithio ar longau Sgwadron Gwarchod y Gororau yn y DU ac yna dramor, fe benderfynodd Anne Howells ddychwelyd i'w bro genedigol.

Daeth yn ôl i Lansteffan i ymgymryd â swydd unigryw fel capten fferi sy'n croesi'r aber rhwng Glanyfferi a Llansteffan.

Aeth Cymru Fyw am sgwrs gyda hi ar fwrdd y llong 'Glansteffan'.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r fferi yn un amffibiaidd sy'n golygu ei bod yn gallu symud ar ddŵr yn ogystal ag ar dir

Fi yw capten y llong a fy rôl i yw gwneud yn siŵr ei bod hi'n saff i fynd mas ar y dŵr.

Adeiladon nhw'r llong lawr yn Sir Benfro ond cafodd ei dylunio yn yr Iseldiroedd. Mae'n purpose-built ar gyfer yr aber yma. Roedd rhaid i'r llong allu delio â'r system amffibiaidd sy' 'da ni fan hyn. Allech chi ddim rhoi'r system hon ar unrhyw long.

Mae'r gwasanaeth fferi wedi dod yn ôl â'r linc sy' wedi bod rhwng y ddau bentref ers blynydde maith. Mae dros 1,000 o flynydde o hanes yn yr ardal o gael fferi'n croesi. Mae'n bwysig i'r ddwy gymuned.

Gyrfa ar y môr

Ro'n i'n gweithio i'r Asiantaeth Forwrol a Gwylwyr y Glannau yng Nghaerdydd i ddechrau cyn symud i Aberdaugleddau. Roeddwn i yng Nghanolfan Gweithredu Gwylwyr y Glannau yn fan 'no.

Weles i swydd gyda'r Swyddfa Gartref yn gweithio ar fwrdd y force cutters yn y Deyrnasu Unedig ac ym Môr y Canoldir a ges i'r swydd.

Disgrifiad o’r llun,

Anne wrth y llyw yn croesi'r aber o Lanyfferi i Lansteffan

Achub ffoaduriaid

Tua blwyddyn mewn i'r swydd, cafodd fy nhîm i eu hala mas i Lésvos. Roedd lot o ffoaduriaid yn croesi o Dwrci.

Aeth fy llong i mas yno ac ro'n ni yn fan 'ny am sbel yn achub pobl oedd yn boddi wrth drïal croesi mewn dinghy bach gyda byti 50 i 100 o bobl arnyn nhw. Oedd e'n horrific.

Ges i'n symud lawr wedyn i Catania yn Sicily yn gwneud yr un peth yn trïal achub ffoaduriaid oedd yn croesi lan o Libya i Malta a'r ynysoedd ar bwys Malta.

Ro'n i yno am tua dwy flynedd. Yna dywedodd rhywun bod jobyn yn mynd ar y fferi yn Llansteffan. Nes i feddwl ei fod yn gyfle da i ddod gartref a gwneud rhywbeth agos i gartref.

Roedd e'n neis cael achub pobl mas yno, ond roedd e'n harrowing ar brydie. Felly mae'n braf cael bod adre.

Disgrifiad o’r llun,

Croesi'r aber

Hefyd o ddiddordeb: