Taith 7,000km yn glanhau traethau yn cyrraedd Cymru
- Cyhoeddwyd
Bydd dynes sy'n seiclo dros 7,000 cilomedr o amgylch y DU wrth dacluso traethau yn cyrraedd gogledd Cymru ddydd Sadwrn.
Dechreuodd Kiko Matthews ar ei thaith yn Llundain, ac mae hi wedi bod yn gwahodd pobl i gymryd rhan ar y ffordd.
Mae hi eisoes wedi stopio ym Mhenarth ar ei thaith, a bydd yn mynd ymlaen i Brestatyn cyn croesi'r ffin i Loegr.
Bwriad y daith ydy gweithio gyda thros 300 o wirfoddolwyr a chasglu dros 250kg o wastraff.
'Pawb yn rhan ohono'
Dywedodd Ms Matthews, 38, bod chwilio am blastig "fel helfa wyau Pasg".
Ychwanegodd nad oedd wedi gweld llawer o boteli plastig, ond bod "gymaint o ddarnau bychain".
Fe wnaeth Ms Matthews osod yr her i'w hun ar ôl gosod record ar gyfer rhwyfo ar draws Mor Iwerydd ar ei phen ei hun y llynedd.
Drwy wneud hynny fe gasglodd £100,000 i Ysbyty Coleg King's yn Llundain a roddodd driniaeth iddi am diwmor.
Roedd glanhau traethau'r wlad yn syniad roedd Ms Matthews wedi bod yn ei ystyried ers tro, gan ei bod yn arfer rhedeg cwmni rhwyf-fyrddio yn Llundain oedd yn casglu sbwriel o afonydd a chamlesi'r ardal.
"O'n i am wneud rhywbeth roedd pawb yn gallu bod yn rhan ohono," meddai.
Unwaith bod ei thaith ar ben, ei gobaith ydy y bydd wedi codi ymwybyddiaeth, a dywedodd y bydd hi'n "barod am wyliau hefyd!".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2018