Sut gall gweithgareddau bob dydd drin iechyd meddwl?

  • Cyhoeddwyd
Yn y Rhondda mae cwmni theatrig Avant Cymru yn cynnal dosbarthiadau mewn canolfan gymunedol.Ffynhonnell y llun, Dale Poole
Disgrifiad o’r llun,

Mae gweithgareddau cwmni theatrig yn y Rhondda yn creu awyrgylch diogel lle mae modd i unigolion siarad, dawnsio a theimlo'n rhan o gymuned

Mae nifer y bobl yng Nghymru sy'n cael eu cyfeirio ar gyfer asesiad iechyd meddwl wedi cynyddu 47% dros gyfnod o bedair blynedd.

Y llynedd cafodd dros 74,000 eu cyfeirio gan feddygon o'i gymharu â 50,630 yn 2014.

Ond yn hytrach na darparu triniaethau traddodiadol fel tabledi gwrth iselder, mae dewis arall - llai traddodiadol - yn cael ei gynnig sef rhagnodi cymdeithasol.

Mae rhagnodi cymdeithasol yn ffordd o gysylltu cleifion mewn gofal sylfaenol â ffynonellau o gymorth yn y gymuned.

Gobaith arbenigwyr iechyd cyhoeddus yw bydd rhagnodi cymdeithasol yn gallu helpu i leihau'r pwysau ar wasanaeth iechyd Cymru.

Y broses

Mae'r broses rhagnodi cymdeithasol yn caniatáu i weithwyr iechyd gyfeirio cleifion at weithwyr cyswllt, sy'n edrych ar y rhesymau pam bod unigolyn yn mynd at y meddyg ac yna'n eu cyfeirio at grwpiau cymunedol i'w cefnogi.

Gall gweithgareddau amrywio o wirfoddoli, gweithgareddau celfyddydol, garddio, coginio ac ystod o chwaraeon.

Bwriad y gwasanaeth yw cynnig cymorth i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl ysgafn neu hirdymor, pobl sy'n agored i niwed neu'n unig, a rheiny sy'n mynychu naill ai gofal iechyd sylfaenol neu eilaidd yn gyson.

Creu awyrgylch saff

Yn y Rhondda mae cwmni theatrig Avant Cymru yn cynnal dosbarthiadau mewn canolfan gymunedol.

Mae gweithgareddau yn cael eu cynnal i'r aelodau sy'n gymysgedd o ferched a bechgyn rhwng saith a 45 oed.

Eu bwriad yw creu awyrgylch diogel lle mae modd siarad, dawnsio a theimlo'n rhan o gymuned.

Mae'r cwmni'n cynnal sioeau rheolaidd ac mae'r Samariaid yn mynd yno i helpu unrhyw un a allai gael ei effeithio gan y pynciau sy'n cael eu harchwilio trwy ddawns a rap.

Disgrifiad,

Kai Easter: 'Dawnsio stryd yn datblygu fy hyder'

Un sy'n mynd i'r sesiynau dawns er mwyn pleser yn unig yw Kai Easter, 13 oed sy'n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Garth Olwg.

"Mae'n dda oherwydd, pan dwi'n dawnsio'n bersonol, dwi ddim yn meddwl am unrhyw beth arall sy'n mynd mlaen y tu allan o lle dwi'n dawnsio, dwi'n meddwl am beth dwi'n neud ar y foment hynny," meddai.

"Dwi'n meddwl bo hynny'n helpu os dwi'n stressed am unrhyw beth arall sy'n mynd mlaen."

Mwy o bwysau ar elusennau?

Mae Dr Carolyn Wallace o Brifysgol De Cymru yn arbenigo mewn rhagnodi cymdeithasol ac yn cynnal gwaith ymchwil i'r broses

Dywedodd bod pob math o weithgareddau'n gallu bod yn llesol i unigolion - canu, garddio, dosbarthiadau drama ond mae'n cyfaddef bod hyn yn gallu rhoi mwy o bwysau ar elusennau.

"Mae yn rhoi pwysau ar y trydydd sector, mae hynny'n wir ond mae'n helpu'r trydydd sector i ddangos beth ma nhw'n gallu gwneud," meddai.

"Mae'n ffordd o edrych ar y gofal ar draws iechyd i ddatrys y problemau mawr sy 'da ni, problemau cymhleth yn enwedig gyda phobl hen ond gyda'r ifanc hefyd."

Mae arbenigwyr iechyd cyhoeddus bellach yn gobeithio y bydd rhagnodi cymdeithasol yn gallu helpu i leihau'r pwysau ar Wasanaeth Iechyd Cymru.