Poeni am lygredd plastig yn Aber Afon Hafren
- Cyhoeddwyd

Mae'r pysgotwyr i'w gweld o'r ddwy bont Hafren
Wrth i dymor blynyddol pysgota eog ddod i rym ddydd Llun yn Aber Afon Hafren, mae pysgotwyr rhwydi gafl yn dweud eu bod wedi dychryn o weld faint o lygredd plastig sy'n y dŵr.
Dywedodd Martin Morgan, un o'r pysgotwyr ei fod yn hynod siomedig o weld y llygredd.
"Mae'r amgylchedd,"meddai, "yn cael ei ddifetha gan y ffordd yr ydym yn dewis byw".
Mae pysgota â rhwydi gafl yn hen draddodiad sy'n mynd yn ôl 400 mlynedd.

Roedd y gynfas blastig hon yn un o'r nwyddau a olchwyd i'r lan
Rhaid mynd mewn i'r dŵr ac yna dal y pysgod â rhwydi ar fframiau helyg.
Mae Mr Morgan yn cydnabod bod lleihad mawr wedi bod yn y gwastraff o ffatrïoedd cyfagos a hynny yn bennaf wrth i'r diwydiannau grebachu.
Ond ychwanegodd nad oedd yn cofio gweld plastig yn yr aber pan yn blentyn ond yn ddiweddar fod pob math o lygredd yn y dŵr gan gynnwys deunyddiau lapio, cynhyrchion hylendid a char.

Martin Morgan yn llunio ffrâm newydd ar gyfer y rhwydi
Yn 2017 roedd yna bryderon y byddai y dull traddodiadol o bysgota â rhwydi gafl yn dod i ben wrth i system dal a rhyddhau pysgod gael ei chyflwyno i sicrhau bod cyflenwad digonol o eog yn yr aber.
Ond fe gafodd y pysgotwyr barhau cyn belled â'u bod ddim yn dal mwy na 15.
'Yn fy ngwaed'
Dywedodd Mr Morgan bod amodau'r tywydd a chyfyngder amser o ddwy awr pan mae'r llanw yn newid yn gallu amharu ar eu llwyddiant.

Mae traddodiad yn mynnu fod pob pysgodyn sy'n cael ei ddal yn cael ei rannu gyda physgotwyr eraill
Chafodd Mr Morgan a'r pysgotwyr eraill ddim gwybod tan wythnos ddiwethaf y byddai eu trwyddedau ar gyfer pysgota gyda rhwydi gafl yn cael eu hadnewyddu ac yr oedd y mater o gryn bryder iddynt wrth i'r tymor ddod yn nes.
"Rwy'n gobeithio y bydd pysgota â rhwydi gafl yn parhau am flynyddoedd i ddod. Mae e yn fy ngwaed i," meddai.

Mae cwmpawd hen gwch ymhlith y creiriau sydd wedi cael eu canfod yn y mwd
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2017