Beth yw'r Eisteddfod?
- Cyhoeddwyd
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy rhwng 3-10 Awst 2018 yn Llanrwst.
Gŵyl gelfyddydol sy'n cael ei chynnal yn flynyddol yn y de a'r gogledd bob yn ail yw'r Eisteddfod Genedlaethol. Mae'n ddigwyddiad allweddol yn y calendr Cymreig a gellir ei disgrifio fel gŵyl dalent genedlaethol mewn cystadlaethau amrywiol o ddawnsio i lefaru, canu i fandiau pres, a'r cyfan yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg.
Pryd mae'n digwydd?
Cynhelir yr Eisteddfod yn flynyddol, yn ystod wythnos gyntaf mis Awst, o ddydd Sadwrn i ddydd Sadwrn.
Croeso i bawb
Mae'r Eisteddfod yn denu, ar gyfartaledd, dros 150,000 o ymwelwyr gydol yr wythnos ac mae croeso i bawb - o'r Eisteddfodwyr selog i'r rhai chwilfrydig sy'n ymweld am y tro cyntaf. Mae rheol uniaith Gymraeg yn yr Eisteddfod ac er bod yr holl gystadlu'n digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg, mae croeso i'r rhai sydd ddim yn siarad yr iaith. Mae offer cyfieithu ar gael i'w casglu ger y Ganolfan Groeso wrth y brif fynedfa i'r Maes.
Beth i'w ddisgwyl
Y Pafiliwn yw canolbwynt yr ŵyl. Yno mae'r cystadlu'n digwydd - o gerddoriaeth a barddoniaeth i lefaru a dawnsio.
Daw'r cystadlu i ben gan amlaf tua 4.30pm fel bod y prif seremonïau yn gallu cael eu cynnal ar y llwyfan - y Coroni ar ddydd Llun, Gwobr Goffa Daniel Owen ar ddydd Mawrth, y Fedal Ryddiaith ar ddydd Mercher, a'r Cadeirio ar y dydd Gwener. Ar nos Fercher a nos Wener yr Eisteddfod mae'r cystadlu'n ail-gychwyn ar ôl y seremonïau ac yn parhau tan yr hwyr.
Hefyd yn rhan o'r ŵyl, cynhelir cyngherddau nosweithiol.
Pris mynediad
Mae manylion llawn a phrisiau tocynnau ar wefan swyddogol yr Eisteddfod Genedlaethol, dolen allanol.
O gwmpas y Maes a thu hwnt
Os nad yw'r cystadlu'n mynd â'ch bryd chi, gallwch dreulio diwrnod ar faes yr Eisteddfod heb fynd i mewn i'r Pafiliwn, gan bod cymaint o bebyll eraill i ymweld â nhw. Yn eu plith mae'r ardal Gwyddoniaeth a Thechnoleg, y Lle Celf (a leolir yn y Senedd), y Babell Lên, y Sinemaes a Phabell y Dysgwyr (Shwmae Caerdydd) a leolir yn adeilad y Pierhead eleni.
Yn ogystal, mae 'na stondinau ac arddangosfeydd yn gwerthu dillad, gemwaith, llyfrau, CDs a nwyddau o bob math. Mae nifer o stondinau bwyd o gwmpas y Maes, a bariau yn gwerthu alcohol hefyd.
Mae cyfleusterau ar gyfer teuluoedd gyda babanod a phlant bach ar gael ar y Maes a thoiledau addas i bobl anabl.
Beth sy' 'mlaen?
Mae pethau'n digwydd ar y Maes ac o gwmpas yr ardal yn ystod yr wythnos, gan gynnwys dramâu, cyngherddau, barddoniaeth a chomedi, perfformiadau gan grwpiau lleol a nifer fawr o gigs amrywiol bob nos.
Tŷ Gwerin - Iwrt mawr sy'n gartref i bob math o weithgareddau sy'n adlewyrchu'r byd gwerin yng Nghymru
Caffi Maes B - Lleoliad agos atoch sy'n rhoi cyfle i weld bandiau a mwynhau sesiynau acwstig
Llwyfan y Maes - Cyfle i'r teulu cyfan weld pob math o artistiaid ar lwyfan agored sy'n agos at y pentref bwyd
Pentref Drama - Dyma gartref y Theatr a'r Cwt Drama lle mae pob math o berfformiadau theatrig yn cael eu cynnal
Shw'mae Su'mae - ardal i'r rhai sy'n dysgu Cymraeg. Mae'r gweithgareddau yn amrywio o sgyrsiau difyr i chwarae gemau i gystadlaethau
Maes B, dolen allanol - brawd bach yr Eisteddfod liw nos! Cynhelir yr ŵyl gerddoriaeth arbennig yma eleni rhwng 7-10 Awst