Disgwyl cyhoeddiad am ffordd liniaru'r M4 ger Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Y daith ddyddiol i'r gwaith ar yr M4

Bydd nifer yn cadw llygad barcud ar ddigwyddiadau yn y Senedd ddydd Mawrth wrth i ni ddisgwyl cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru am ddyfodol ffordd liniaru'r M4 i'r de o Gasnewydd.

Mae Dr Eleri Rosier, darlithydd yn Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd, yn teithio ar y briffordd yn gyson o'i chartref yn Rhaglan, Mynwy.

Mae'n gweithio o'i chartre' yn achlysurol er mwyn osgoi'r daith drwy Dwneli Bryn-glas ger Casnewydd - ardal sy'n gur pen i nifer o deithwyr.

"O'n i'n arfer teimlo'n rhwystredig, ac o'n i'n cal y road rage weithiau. Dwi'n 'neud yn siŵr nawr nad oes cyfarfodydd yn dechrau yn rhy gynnar," meddai.

"Hwn yw'r bottleneck, hwn yw'r broblem. Dyw e ddim yn chwarter milltir hyd yn oed. Mae'n fach dros ben, ond mae'r effaith ar lif y traffig yn enfawr."

'Gwastraff amser'

Ers symud i Raglan 12 mlynedd yn ôl, mae Dr Rosier wedi bod yn disgwyl yn amyneddgar am welliannau i'r ffordd.

A disgwyl eto fyth fydd hi mae'n debyg gyda dyfalu cynyddol y bydd cynlluniau i godi ffordd newydd yn cael eu diystyried.

"Mae jest yn hala fi i godi fy aeliau a jest meddwl 'na wastraff amser, wastraff siarad. Ti jest yn meddwl beth yw'r pwynt o'r holl siarad yma pan does dim byd yn digwydd yn y pen draw," ychwanegodd.

Disgrifiad o’r llun,

Y disgwyl yw y byddai'r cynllun yn costio hyd at £1.4bn i'w gwblhau

Marchnata yw arbenigedd Dr Rosier, a dyw'r diffyg cysondeb a diffyg penderfyniad ddim yn adlewyrchu'n dda ar ddelwedd Cymru, meddai.

"Dyw e ddim yn rhoi'r argraff bo' ni'n wlad sy'n gallu gwneud penderfyniadau cyflym, slic.

"Ni'n pendroni cymaint a ma' pethau ddim yn digwydd yn y diwedd. Dyw e ddim yn dod drosto fel gwlad sy'n hyderus yn eu penderfyniadau."

Penderfyniad anodd

Yn ogystal â hynny, mae'n amharu ar brofiad ymwelwyr i Gymru, yn ôl Dr Rosier.

"Y peth cyntaf sy'n digwydd iddyn nhw, pan ma' nhw'n dod dros y bont a dod mewn i Gymru yw ma' nhw'n styc mewn traffig, yn methu mynd trwy Dwneli Bryn-glas ac mae'n cymryd oriau iddyn nhw gyrraedd Caerdydd, y brifddinas."

Fodd bynnag, mae Dr Rosier yn cydnabod nad yw'r penderfyniad yn un hawdd, a hynny tra bod nifer o gyrff amgylcheddol yn gwrthwynebu ffordd newydd.

"Ni'n defnyddio'r gwlypdiroedd lot fel teulu, ni'n mynd lawr â'r plant i chwarae ar y beics a dwi'n deall yr ochr 'na o'r stori a ma'r amgylchedd yn rhywbeth mor bwysig.

"Ond dwi'n gorfod 'neud y daith yma bron pob dydd hefyd, ac eistedd mewn traffig, so dwi mewn dau feddwl a dweud y gwir."

'Hanfodol'

Ar raglen y Post Cyntaf fore Mawrth, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns fod gwelliannau i'r M4 yn "hanfodol".

"Fe fydd effaith negyddol os fydd Mark Drakeford yn rhwystro'r cynllun," meddai. "Mae'r arian ar gael ac mae'r Trysorlys wedi ei gymeradwyo.

"Ni all economi de Cymru ffynnu heb y gwelliannau yma. Nid mater pleidiol yw hwn... mae dyletswydd ar Mark Drakeford i wrando ar y dadleuon o blaid buddsoddi yn y cynllun yma."

Ychwanegodd Mr Cairns na fyddai gwella'r ffordd yn cael effaith rhy niweidiol ar yr amgylchedd. Dywedodd bod cwmnïau ceir fel Ford wrthi'n datblygu ceir trydan fydd yn well i'r amgylchedd.