Cwest: Dyn wedi marw ar ôl disgwyl 4 awr am ambiwlans

  • Cyhoeddwyd
Craig y DonFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Roedd James Sullivan yn byw yn ardal Craig y Don yn Llandudno

Mae cwest wedi clywed bod dyn wnaeth ffonio 999 ar ôl disgyn i lawr y grisiau yn ei fflat wedi cael ei ganfod yn farw gan griw ambiwlans bedair awr yn ddiweddarach.

Bu farw James Sullivan, 37, wedi'r digwyddiad ar 28 Hydref 2018 yn ardal Craig y Don yn Llandudno.

Roedd Mr Sullivan wedi dweud wrth y person atebodd ei alwad ffôn ei fod wedi bod yn yfed, ac er ei fod wedi anafu ei asennau a'i glun ei fod wedi gallu cael ei hun i'w wely.

Er ei fod wedi ffonio 999 am 02:58 yn dweud ei fod wedi disgyn dwy awr ynghynt, fe gymerodd hi tan 06:40 i'r ambiwlans gyrraedd fflat Mr Sullivan.

Cafodd ei ganfod yn farw ar waelod y grisiau.

'Damwain'

Daeth y Crwner Joanne Lees i'r casgliad mai damwain oedd y farwolaeth, gydag alcohol wedi chwarae rhan.

Dywedodd bod Mr Sullivan wedi disgyn ddwywaith, a'i bod yn debygol mai'r digwyddiad cyntaf am tua 00:30 oedd wedi arwain at yr anafiadau wnaeth achosi ei farwolaeth.

Ychwanegodd bod yr ail ddigwyddiad, ar ôl 03:00, yn debyg o fod yn achos o lewygu, a hynny o ganlyniad i'r anafiadau roedd eisoes wedi'u dioddef.

Dywedodd Gill Pleming o Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru (WAST) ei bod o'r farn bod galwad Mr Sullivan wedi cael ei roi yn gywir yn y categori Oren - nid y mwyaf difrifol, sef Coch.

Ychwanegodd bod un o weithwyr y gwasanaeth wedi ceisio ffonio Mr Sullivan am 04:15 i holi am ei gyflwr, ond nad oedd ateb.

Eglurodd na gafodd yr alwad ei huwchraddio i'r categori Coch bryd hyn chwaith, ond hyd yn oed pe bai hynny wedi digwydd, na fyddai'r ambiwlans wedi cyrraedd nes toc cyn 06:00 beth bynnag.

'Wedi marw rhwng 03:00 a 05:00'

Dywedodd y Crwner Lees: "O ystyried difrifoldeb yr anafiadau... mae'n debygol ei fod wedi marw rhwng 03:00 a 05:00.

"Mae pryd gyrhaeddodd yr ambiwlans yn llai arwyddocaol felly.

"Hyd yn oed petai wedi cael ei uwchraddio [i'r categori Coch] a hyd yn oed petai'r ambiwlans wedi cyrraedd 48 munud yn gynharach, mae'n debygol y byddai James wedi marw eisoes o'i anafiadau."

Dywedodd patholegydd wrth y cwest bod Mr Sullivan wedi marw o ganlyniad i waedu mewnol difrifol, a'i fod yn cytuno ei fod wedi marw rhwng 03:00 a 05:00.

Yn siarad wedi'r cwest ddydd Mawrth, dywedodd tad Mr Sullivan fod ei fab wedi "haeddu gwell".

Mae'r teulu wedi gwneud cwyn swyddogol i WAST am y ffordd cafodd Mr Sullivan ei drin.