Actio ochr-yn-ochr â seren Hollywood

  • Cyhoeddwyd
SheenFfynhonnell y llun, Emyr Young

Roedd yna hynt a helynt i drigolion Cwmderi wythnos yma wrth i wyneb cyfarwydd adael Pobol y Cwm mewn golygfa hynod ddramatig.

Ond yn dilyn ymadawiad Geraint Todd, daeth seren Hollywood ar y sgrin, sef, Michael Sheen, a chwaraeodd feddyg yn yr ysbyty.

Un oedd yn gweithio'n agos gyda Michael Sheen yn y golygfeydd ar y ddrama opera boblogaidd oedd Lauren Phillips, sy'n chwarae rhan Kelly Charles.

"Roedd e'n brofiad anhygoel, yn amlwg," meddai Lauren.

"Roedd e'n deimlad cyffrous iawn pan ffeindies i mas taw Michael Sheen bydde'n dod fewn i whare rhan y doctor, ond hefyd ar yr un pryd roedd eisiau bod yn warchodol o'r gwaith o'dd wedi cael ei wneud yn yr wythnosau oedd yn arwain fyny at y golygfeydd.

"Roedd yr wythnos cyn hynny yn wythnos fawr i lot o bobl, ac roedd tîm mawr o bobl a oedd wedi gweithio'n hynod o galed ar stori fawr, felly roeddwn i eisiau gwneud teilyngdod â phawb.

"O'n i'n gobeithio y byddwn yn gallu bod yn focussed a mynd fewn i wneud fy job i fel dwi fel arfer yn gwneud a bod y chemistry rhwng Michael a finne yn gweithio.

"Ac yn ffodus iawn i fi pan gyrhaeddodd e ar fore dydd Mercher wnaethon ni yrru 'mlaen yn dda yn syth - roedd e'n ddiwrnod arall o waith i mi, ond wrth gwrs roedd e'n ddiwrnod ac yn brofiad arbennig iawn yn ogystal â hynna.

"Buon ni'n trafod lot o bethau oddi ar y camera, ac mae e'n foi ffein sy'n dangos lot o ddiddordeb mewn pethau. Mae e'n gefnogol iawn ac yn hael iawn, ac o'n i'n teimlo bo' fi'n gallu ymddiried yno fe a gallu joio beth oedden ni'n gwneud, yn eironig, er bod y golygfeydd yn rhai eithaf trwm ac emosiynol."

Cyn yr olygfa yn yr ysbyty, gwelodd y gwylwyr gymeriad Lauren, Kelly mewn golygfa hynod ddramatig gyda'i gŵr, a oedd yn cael ei chwarae gan Geraint Todd.

"Roedd yr olygfa yna wedi cymryd dau ddiwrnod o ffilmio, er mwyn cael yr iechyd a diogelwch yn iawn, fel bo' ni'n gallu mynd ati i berfformio yn onest ac yn reddfol.

"Wrth gwrs, ti'n gorfod gadael dy hunan fynd a gorfod ymddiried yn y tîm sydd gen ti o dy amgylch. Mae Geraint wedi dod yn ffrind i mi bellach, ac mae e'n un o'r bobl mwyaf proffesiynol, disgybledig a hael dwi erioed 'di bod ddigon ffodus i weithio gyda.

"O'n i'n ymwybodol hefyd taw dyma oedd ei foment olaf e, felly o'n i'n teimlo pwysau achos o'n i mo'yn teimlo bod e wedi cael y sialens ola' a gwneud yn dda, felly roedd 'na lot o waith hefyd wedi mynd mewn iddo dros bythefnos.

Ffynhonnell y llun, Emyr Young

"Roedd colli Geraint yn un peth, a gweithio gyda Michael Sheen yn rhywbeth hollol wahanol - mae yna ddeuoliaeth yno rywle. Roedd e'n brofiad anhygoel mod i'n cael actio gyda dau actor mor hyfryd, disgybledig a phroffesiynol - un o'n i'n 'nabod yn dda iawn, a'r llall ddim o gwbl.

"Ond i fod yn hollol onest o fewn rhyw 10 munud o ddechrau sgwrsio gyda'n gilydd, rwy'n credu o'dd Michael yn deall y sgôr hefyd, bod jobyn o waith i'w wneud ar ddiwedd y dydd.

"Gyda opera sebon, ti yn ei chanol hi ac yn gallu bod yn ei herbyn hi o ran amser, yn enwedig stwff stiwdio, ti'n gorfod delifro a gw'bod dy stwff. Yn ffodus iawn roedden ni wedi gallu ffeindio'r chemistry yna, a gan fod e'n berson mor garedig, o be' weles i, roedd hynny'n rhwydd."

A pe bai hi'n cael dewis unrhyw actor yn y byd i ymddangos ar Pobol y Cwm, pwy fyddai dewis Lauren?

"Cwestiwn mor anodd, ond dwi ddim yn credu oedd bore o weithio gyda Michael yn ddigon, felly Michael Sheen fydde'r ateb. Os fasen i wedi gallu cael Michael am wythnos, bydde hynny'n grêt!"

Hefyd o ddiddordeb: