Galw ar y llywodraeth i weithredu ar alwadau twyllodrus
- Cyhoeddwyd
Mae angen i Lywodraeth y DU wneud taclo galwadau ffôn twyllodrus yn flaenoriaeth o ran plismona, yn ôl Aelod Seneddol Llafur.
Dywedodd Chris Elmore, AS Ogwr, ei fod wedi ei syfrdanu gan faint o bobl hŷn sydd yn cael eu targedu gan dwyllwyr.
Mae twf diweddar wedi bod yn nifer y galwadau ffôn - yn aml i bobl oedrannus - sy'n esgus bod o'r Swyddfa Dreth.
Yn ôl Mr Elmore, mae galwadau ffôn o'r fath yn "broblem enfawr ar hyd Cymru a'r DU ac mae angen mwy o gydweithrediad er mwyn mynd i'r afael â'r mater".
Mae'r AS yn dweud bod tystiolaeth fod twyllwyr bellach yn targedu ardaloedd sydd â chanran uchel o bobl hŷn yn byw yno.
Dywedodd: "Mae twyllo yn broblem enfawr o fewn ein cymdeithas. Nid yw targedu pobl hŷn neu bobl fregus yn dderbyniol ac mae'n rhaid i'r llywodraeth ymateb.
"Rydyn ni angen casglu data yn well, deall y broblem yn well, sicrhau mwy o reoleiddio a mwy o gyllid ar gyfer gwasanaethau fel safonau masnach."
Ychwanegodd bod twyllo yn "epidemig" ar hyd y wlad, gyda de Cymru yn dioddef yn arbennig.
Wrth siarad ar y Post Cyntaf, dywedodd Alison Farrar o Safonau Masnach Cymru na wnaiff y sefyllfa wella heb bolisi cadarn.
Rhybuddiodd am y peryglon o droseddwyr sydd bellach "wedi deffro i'r ffaith bod y Cymry yn fwy parod i roi gwybodaeth i rywun yn eu hiaith gyntaf".
"Mae 'na rai sgamwyr sydd yn cyfeirio pobl i'r siaradwyr Cymraeg yn eu swyddfa - felly mae angen bod yn wyliadwrus," meddai.
'Arwain y ffordd'
Yn ôl elusen Age UK, mae bron i 5 miliwn o bobl dros 65 oed yn meddwl eu bod nhw wedi cael eu targedu gan dwyllwyr.
Mae canllawiau newydd Llywodraeth y DU yn dweud bod modd cosbi unrhyw gwmni sy'n gwneud galwadau diangen i bobl ynglŷn â'u pensiynau.
Dywedodd y gweinidog o'r Swyddfa Gartref, Victoria Atkins bod sefydliadau fel y Swyddfa Dreth yn arwain y ffordd yn y frwydr yn erbyn twyllwyr.
Er hynny ychwanegodd bod y llywodraeth yn cydnabod yr angen i wella'r ffordd y mae'r heddlu yn mynd ati i daclo twyll o'r fath.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Awst 2018
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2019