Cymro wnaeth roi America ar y map

  • Cyhoeddwyd
The mapFfynhonnell y llun, Swann Auction Galleries
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y map yn cynnwys gwybodaeth newydd am diroedd newydd

Dwy ganrif a hanner ar ôl i Gymro lunio map o daleithiau newydd America mae ei waith ar fin mynd ar werth yn Efrog Newydd.

Yn 1755 fe wnaeth Lewis Evans, tirfesurydd o Sir Gaernarfon, lunio siart wnaeth osod safonau am fapio am yr hanner can mlynedd i ddilyn.

Dywed arwerthwyr Galeri Swann yn Efrog Newydd y gallai'r mapiau werthu am rhwng $30,000-$50,000 (tua £23,500-£39,200).

Fe luniodd Evans fapiau manwl o Virginia, Maryland, Delaware, Pennsylvania, New Jersey, Efrog Newydd, Connecticut, Ohio a Rhode Island, yn ogystal â rhannau o Ganada.

Roedd yn gyfeillgar gyda Benjamin Franklin - sy'n cael ei gydnabod fel un o sefydlwyr yr Unol Daleithiau - argraffydd o Philadelphia.

Dywedodd llefarydd ar ran Galeri Swann: "Anaml iawn, os erioed, mae gwaith o'r fath yma wedi cael ei gadw neu ei gynnig ar werth."

Dywedodd arbenigwr fod tua 75% o'r gwaith mapio ar y taleithiau wedi ei gwblhau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Benjamin Franklin yn argraffydd ac yn gyfaill i Lewis Evans

Roedd disgrifiadau'r map yn cynnwys tiroedd y tu hwnt i ffin drefedigaethol Prydain ar y pryd, gan gynnwys tiroedd Ohio.

Byddai'r mapiau'n cynnig gwybodaeth bwysig i'r rhai oedd yn edrych am greu bywyd newydd i'r gorllewin.

Mae hefyd yn bwysig am resymau strategol yn ogystal â daearyddol.

Roedd y gwaith yn ffurfio rhan o lyfr Evans - 'Geographical Essay' - ac yn cael ei ddefnyddio gan fyddin Prydain yn ystod y rhyfel gyda Ffrainc a'r llwythau brodorol (1754-63).