Astudiaeth archeolegol i long a suddodd yn 1917
- Cyhoeddwyd
Mae tua 100 o ddeifwyr yn cymryd rhan mewn astudiaeth archeolegol forol o longddrylliad o'r Rhyfel Byd Cyntaf oddi ar Sir Benfro.
Fe darodd yr SS Leysian yn erbyn clogwyni ym Mae Abercastell ym mis Chwefror 1917 a suddodd fisoedd yn ddiweddarach - ond ni fuodd neb farw yn y digwyddiad.
Mae dwsin o glybiau plymio yn rhan o'r astudiaeth, sy'n rhan o Brosiect U-Boat, i nodi canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, ac i ddysgu mwy am y llong.
Mae'r prosiect hefyd wedi edrych ar longddrylliadau eraill o amgylch arfordir Cymru, ac wedi adnabod u-boats Almaeneg.
Dywedodd Ian Cundy, o'r Gymdeithas Archeolegol Forwrol, mai'r nod fydd cofnodi manylion llongddrylliad SS Leysian a rhoi cyfle i ddeifwyr gael profiad mewn astudiaeth o'r fath.
Dywedodd fod adroddiadau cymysg wedi bod ynghylch sut y tarodd y llong y creigiau, gan gynnwys cael ei dilyn gan long danfor Almaeneg. Roedd adroddiad arall yn beio gwall dynol.
'Ble mae'r lluniau?'
Gobaith Mr Cundy yw y bydd pobl leol yn cyflwyno hen ffotograffau o'r llong yn y misoedd cyn iddi suddo oherwydd doedd dim modd dod o hyd i rai mewn cofnodion cyhoeddus.
Cafodd rhywfaint o waith achub ei wneud cyn i'r cwch 440 troedfedd (121m) suddo.
"Rhaid i'r llongddrylliad fod wedi tynnu pobl i mewn, ac mae'n debyg mai dyma'r digwyddiad mwyaf erioed i ddigwydd yn Abercastell, felly ble mae'r holl luniau?" meddai Mr Cundy.
Mae clybiau plymio o Gymru a Lloegr yn cymryd rhan yn y prosiect sy'n para tan 17 Mehefin.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mai 2016
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2011