Map gan Gymro yn gwerthu am $100,000 yn Efrog Newydd
- Cyhoeddwyd
Mae map o America o ganol y ddeunawfed ganrif gafodd ei lunio gan Gymro wedi ei werthu am $100,000 (£78,000) mewn arwerthiant yn Efrog Newydd.
Roedd hyn yn ddwbl y pris amcan o rwng $30,000 a $50,000 ar gyfer y gwaith o eiddo Lewis Evans, tirfesurydd o Sir Gaernarfon.
Nôl yn 1755 fe wnaeth Evans lunio mapiau manwl o daleithiau newydd America.
Dywedodd llefarydd ar ran Galeri Swann yn Efrog Newydd: "Anaml iawn, os erioed, mae gwaith o'r fath yma wedi cael ei gadw neu ei gynnig ar werth."
Mor fanwl oedd gwaith Evans iddo gael ei ddefnyddio ar y pryd gan fyddinoedd Prydain yn eu rhyfel yn erbyn Ffrainc.
Fe luniodd Evans fapiau manwl o Virginia, Maryland, Delaware, Pennsylvania, New Jersey, Efrog Newydd, Connecticut, Ohio a Rhode Island, yn ogystal â rhannau o Ganada.
Roedd yn gyfeillgar gyda Benjamin Franklin - sy'n cael ei gydnabod fel un o sefydlwyr yr Unol Daleithiau - argraffydd o Philadelphia.
Roedd disgrifiadau'r map yn cynnwys tiroedd y tu hwnt i ffin drefedigaethol Prydain ar y pryd, gan gynnwys tiroedd Ohio.
Byddai'r mapiau'n cynnig gwybodaeth bwysig i'r rhai oedd yn edrych am greu bywyd newydd i'r gorllewin.
Roeddent hefyd yn bwysig am resymau strategol yn ogystal â daearyddol.
Roedd y gwaith yn ffurfio rhan o lyfr Evans - 'Geographical Essay' - ac yn cael ei ddefnyddio gan fyddin Prydain yn ystod y rhyfel gyda Ffrainc a'r llwythau brodorol (1754-63).
Y ffi derfynol i'r prynwr llwyddiannus oedd $125,000, sy'n cynnwys ffi o $25,000 i'r Oriel.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2019