Euro 2020: Her enfawr i Gymru yn Croatia
- Cyhoeddwyd
Mae pêl-droedwyr Cymru yn paratoi i wynebu "her enfawr" wrth iddyn nhw wynebu Croatia yn Osijek brynhawn Sadwrn (14:00).
Dywedodd y rheolwr Ryan Giggs: "Mae'n her enfawr wynebu tîm sydd wedi bod yn rownd derfynol Cwpan y Byd, ac maen nhw'n dîm sy'n cynnwys chwaraewyr fel Luka Modric."
Ac fe gyfaddefodd Giggs bod y gwres llethol yn Osijek - fydd tua 30ºC yn ystod y gêm - yn sialens hefyd: "Mae'n anodd paratoi.
"Dyw'r tywydd ddim fel hyn yn Wrecsam! Fe aethon ni i Bortiwgal i ymarfer er mwyn cael rhywfaint o wres ond roedd yr awel yno wedi oeri pethau rhywfaint.
"Mae'n rhaid i ni baratoi yn iawn ac yfed digon o ddŵr."
Dan James ac Ethan Ampadu yn barod
Bydd hyder y garfan yn gadarn ar ôl curo Slofacia 1-0 yn rownd gyntaf y gystadleuaeth. Ac fe gafodd y tîm hwb pellach ar ôl clywed bod Ben Davies yn barod i chwarae wedi iddo ohirio ei lawdriniaeth.
Mae Ethan Ampadu hefyd yn holliach ar ôl gwella o anaf i'w gefn.
Bydd Dan James yn barod hefyd ar ôl cwblhau ei drosglwyddiad i Manchester United ddydd Gwener.
Ond mae record gartref Croatia yn ardderchog - ers eu gêm gyntaf yn y gystadleuaeth Ewropeaidd yn 1994 dy'n nhw ddim wedi colli ar eu tir eu hunain.
Maen nhw wedi llwyddo i osgoi colli adref yn eu 23 gêm ddiwethaf ymhob cystadleuaeth.
Fe ddechreuodd Croatia eu hymgyrch Ewropeaidd ym mis Mawrth gyda buddugoliaeth 2-1 adref yn erbyn Azerbaijan.
Dridiau yn ddiweddarach roedd yna ergyd i'w gobeithion wrth iddyn nhw golli 2-1 yn erbyn Hwngari yn Budapest.
Hwngari fydd gwrthwynebwyr nesaf Cymru, wrth i garfan Ryan Giggs deithio i Budapest ar gyfer her anodd arall.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2019