Corff dynes yn cael ei ddarganfod mewn eiddo yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
heddlu

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio wedi i ddynes gael ei darganfod yn farw mewn tŷ yn Wrecsam.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r eiddo yn Ffordd Caer gan y gwasanaeth ambiwlans ychydig ar ôl 06:30 ddydd Sul, 9 Mehefin.

Cafodd manylion yr achos eu danfon i'r crwner ac fe gynhaliwyd archwiliad post mortem ddydd Llun.

Yn dilyn yr archwiliad, fe ddywedodd yr heddlu nad ydyn nhw'n trin y farwolaeth fel un amheus.