280 o swyddi i'w colli yn ffatri Quinn Casnewydd
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni Quinn Radiators Ltd, sydd â ffatri yn ardal Dyffryn, Casnewydd, wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.
Wedi cyrraedd y gwaith fore Llun, 10 Mehefin, cafodd gweithwyr wybod na fydd y cwmni yn eu talu o hyn allan.
Bydd tua 280 o swyddi yn cael eu heffeithio ar unwaith, gyda nifer fechan o weithwyr yn cael eu cadw ar y safle.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod cynllun cefnogaeth yn ei le ar gyfer y gweithwyr sydd wedi colli eu gwaith.
'Her aros yn gystadleuol'
Daeth cadarnhad gan y gweinyddwyr, Grant Thorton, y bydd y cwmni dan eu gofal nhw o hyn ymlaen.
Dywedodd llefarydd bod y "cwmni wedi bod yn wynebu'r her o barhau'n gystadleuol dros y blynyddoedd diwethaf - a hynny yn erbyn y cynnydd mewn prisiau deunydd crai a brandiau rhatach sy'n cael eu mewnforio".
"Dros y misoedd diwethaf, bu'r cyfarwyddwyr yn ymdrechu i ddod o hyd i brynwyr er mwyn sicrhau'r swyddi a chadw'r busnes yn y DU," meddai.
Esboniodd bod y drafodaeth wedi dirwyn i ben yr wythnos diwethaf "heb lwyddiant a gyda cholledion anghynaladwy".
Cadarnhaodd y bydd 280 o weithwyr yn colli eu swyddi ar unwaith, a'u bod yn blaenoriaethu "gweithio gyda'r gweithwyr i sicrhau ein bod yn sicrhau'r canlyniad gorau i gredydwyr".
Mae Quinn Radiators wedi bod yn cynhyrchu gwresogwyr tai am 35 o flynyddoedd, tra bod y safle yng Nghasnewydd wedi bod yn agored ers 2005.
Ond fore Llun, cafodd gweithwyr wybod mewn llythyr - sydd wedi dod i sylw'r BBC - bod eu swyddi yn dod i ben yn syth, a na fydd y cwmni yn masnachu rhagor.
Mae'r llythyr hefyd yn cyfeirio'r gweithwyr i wneud cais am daliad diswyddo gan y llywodraeth.
'Gymaint o sioc'
Dywedodd Ewa, sydd wedi bod yn gweithio ar y safle ers dros 10 mlynedd, bod "neb wedi dweud unrhyw beth wrtha i".
"Codais bore 'ma i alwad gan fy ffrind gyda'r newyddion - o ni methu bwyta unrhyw beth ar ôl clywed.
"Fi methu coelio bod hyn wedi digwydd - mae le mor dda i weithio. Mae'n gymaint o sioc."
Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd Debbie Wilcox bod hyn yn "newyddion hynod o siomedig a thrist."
"Mae'r cwmni wedi bod yn y ddinas am nifer o flynyddoedd, ac roedden ni wedi gobeithio y bydden nhw wedi bod yma am flynyddoedd i ddod.
"Rydym dan yr argraff bod grŵp arbenigol yn cael ei apwyntio i helpu gweithwyr sydd wedi colli eu swyddi i ddod o hyd i waith arall, yn ogystal â chynnal cyfloed hyfforddiant.
"Fe fydd y cyngor yn chwarae rhan agos yn y broses honno," meddai.
'Newyddion siomedig'
Yn adeiladu ar sylwadau Ms Wilcox mae'r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates.
Dywedodd ei fod "yn amlwg yn newyddion siomedig i weithwyr Quinn Radiators a'u teuluoedd" a'i fod yn "cydymdeimlo gyda phawb sydd wedi cael eu heffeithio".
Cadarnhaodd bod "cefnogaeth yn ei le ar gyfer rheiny sydd wedi eu heffeithio gan y newyddion".
"Rydym wedi trefnu digwyddiad yn y dyddiau nesaf a fydd yn cael gweld Adran Gwaith a Phensiynau, Gyrfa Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd a Chyngor ar Bopeth yn mynychu er mwyn cynnig cefnogaeth a chyngor i'r rheiny sydd wedi colli eu gwaith."
Ychwanegodd y bydd Llywodraeth Cymru yno hefyd i gynnig cyngor trwy eu cynllun ReAct.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2019