Trafod symud rhan o lwybr yr arfordir ger Aberystwyth
- Cyhoeddwyd
Mae 'na bryder y gallai rhan o lwybr yr arfordir gael ei golli ger Aberystwyth.
O fewn y 10 mlynedd diwethaf, mae newid hinsawdd a chodiad yn lefel y môr wedi achosi newidiadau ar draeth Tanybwlch, ger Penparcau.
Un posibilrwydd sy'n cael ei drafod gan Gyngor Ceredigion yw symud llwybr yr arfordir.
Mae adolygiad o sefydlogrwydd traeth Tanybwlch yn cael ei gynnal ar hyn o bryd.
Fe gafodd y sesiwn ymgynghori cyntaf ei gynnal dros y penwythnos, gydag uwch ecolegydd Cyngor Ceredigion, Alison Heal, yn casglu ymateb ar faes Sioe Aberystwyth.
"Gyda'r stormydd ni wedi cael dros y 10 mlynedd diwethaf, mae'n edrych fel bod y graean yn symud llawer mwy nag oedd e dros yr 20 mlynedd cyn hynny," meddai.
"Mae'r ddeddfwriaeth o gwmpas y llwybrau yn eithaf cryf. Mae dyletswydd ar y cyngor sir i gynnal a chadw'r llwybrau a'u cadw nhw ar agor."
Ychwanegodd bod y cyngor yn "edrych ar y posibilrwydd o symud llwybr yr arfordir".
"Os ydyn ni'n gallu rhagweld bod rhywbeth yn gallu digwydd, a bo' ni ddim yn 'neud dim amdano fe, mae hynny yn broblem i ni.
"Bosib byddai'n rhaid i ni ei ddatrys ar frys ac mae hynny yn gostus. Os ni'n gallu rhagweld a gwneud rhywbeth o flaen llaw, falle byddai hynny yn rhatach.
Dyddiadau ymgysylltu:
Carnifal Penparcau 29 Mehefin, 13:00 ymlaen;
Canolfan Gymunedol Penparcau 6 Gorffennaf, o 13:00 i 16:00;
Gorsaf dân Aberystwyth, Trefechan 9 Gorffennaf, o 11:00 i 14:00;
Gŵyl Môr i'r Tir 11 Awst.
Does dim bygythiad i gartrefi pobl, dim ond i dir amaethyddol a llwybrau cyhoeddus.
Mae traeth Tanybwlch hefyd yn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig.
Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, aelod o Gabinet Ceredigion sydd â chyfrifoldeb dros yr Economi ac Adfywio: "Mae traeth Tanybwlch yn le poblogaidd i lawer o bobl; boed hynny'n ymwelwyr yn cerdded llwybr yr arfordir, preswylwyr yn mynd â'u cŵn am dro bob dydd neu unrhyw un sy'n dymuno mwynhau'r harddwch naturiol y warchodfa.
"Mae'n bwysig bod trigolion lleol a defnyddwyr y traeth yn ymwybodol o'r adolygiad hwn a'r canlyniadau posibl."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd21 Awst 2018