Ffermwr Gogarth: Achos wedi 'costio degau o filoedd'

  • Cyhoeddwyd
Daniel a'i wraig Ceri a'u plentyn mab Efan
Disgrifiad o’r llun,

Daniel, ei wraig Ceri a'u mab Efan ar ddechrau eu prydles o fferm y Parc yn 2016

Mae ffermwr a gafodd ei gyhuddo o esgeuluso ei gyfrifoldebau fferm wedi dweud wrth BBC Cymru bod yr holl beth wedi "costio degau o filoedd o bunnau" iddo.

Daw'r sylwadau ychydig ddyddiau wedi i Gyngor Conwy ollwng yr achos yn ei erbyn.

Mae un o swyddogion Undeb Amaethwyr Cymru yn dweud bod hi'n "egwyddorol anghywir" fod y cyngor wedi parhau â'r achos.

Dywedodd Cyngor Conwy bod "dylestswydd ar y cyngor i ymchwilio i achosion" o'r fath.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae hyn i gyd wedi fy ngwneud i'n fwy penderfynol ar gyfer y ddeng mlynedd nesaf," meddai.

Yn 2016, cafodd Daniel Jones, 40 oed o Langristiolus ar Ynys Môn, ei ddewis gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i redeg Fferm y Parc ar y Gogarth, a hynny gyd am £1 y flwyddyn mewn rhent.

Buan iawn y trodd y freuddwyd yn sur wrth i Mr Jones orfod ymddangos yn Llys Ynadon Llandudno ar gyhuddiad o esgeuluso anifeiliaid a pheidio â chadw cofrestr fanwl o symudiadau anifeiliaid.

Ond brynhawn Gwener, 7 Mehefin, cafodd Mr Jones wybod bod yr erlyniad yn gollwng y cyhuddiadau yn ei erbyn.

'Mewn lle ofnadwy'

Wrth brosesu'r newyddion, dywedodd bod yr achos "wedi fy ngadael mewn lle ofnadwy i ddweud y gwir."

"Dw i wedi gorfod gwerthu lot o beiriannau'r ffarm, gwerthu 300 o ddefaid, a benthyg pres gan deulu," meddai.

Yn ôl Mr Jones, dim ond 10% o gost yr achos sydd wedi cael ei ddychwelyd iddo. Ond mae'r baich wedi bod yn fwy nag un ariannol yn unig.

"Mi wnaeth yr holl beth effeithio ar fy iechyd meddwl yn ofnadwy. Mi ges i dabledi gan y doctoriaid a dwi'n dal i'w cymryd nhw.

"Ond mae'r gefnogaeth wedi bod yn anhygoel - gan ffrindiau, teulu, pobol leol a phobol o bellach i ffwrdd."

Disgrifiad o’r llun,

Wrth feirniadu'r cyngor, dywedodd Mr Watkin bod yr ymchwiliad yn dangos bod y swyddogion "ddim yn deall eu gwaith"

Dywedodd Gwynedd Watkin o Undeb Amaethwyr Cymru "eu bod yn sylweddoli bod yna reolau, rydym yn sylweddoli bod rhaid i ffermwyr gadw at y rheolau hynny".

"Ond dylai'r achos heb gyrraedd y llysoedd o bell ffordd. Os oedd angen cywiro unrhyw wendidau mewn cofnodion, bysa hynny 'di gallu digwydd yn reit hawdd," meddai.

Mae'r Undeb yn feirniadol o'r ffordd y deliodd swyddogion gyda'r achos, ac maen nhw wedi galw ar brif weithredwr Cyngor Conwy, Iwan Davies, i gynnal ymchwiliad i'r mater.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor bod "dyletswydd ar yr awdurdod sy'n erlyn i adolygu'r dystiolaeth yn barhaus wrth i achos fynd yn ei flaen ac, yn yr achos hwn, gwnaeth y Cyngor y penderfyniad priodol i dynnu'n ôl".