Cwmnïau o Gymru'n 'dangos diddordeb' yn safle Ford
- Cyhoeddwyd
Mae cwmnïau o Gymru wedi dangos diddordeb mewn buddsoddi yn safle ffatri Ford ym Mhen-y-bont, yn ôl Gweinidog yr Economi, Ken Skates.
Mae Mr Skates wedi galw ar y cwmni ceir i roi gwybod os fyddai'r safle yn addas ar gyfer y cwmnïau hyn.
Cyhoeddodd y cwmni wythnos ddiwethaf y bydd y ffatri yn cau ym mis Medi 2020, gyda cholled 1,700 o swyddi.
Yn sgil cau safle Pen-y-bont, mae Mr Skates wedi annog Ford i wneud "buddsoddiad sylweddol" yn y gymuned.
Wrth ymateb i gwestiwn yn y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd Mr Skates fod angen i'r cwmni "gydnabod ymrwymiad a ffyddlondeb y bobl".
"Byddwn yn cysylltu â Ford er mwyn gofyn am fuddsoddiad sylweddol yn y gymuned a'r rhai bydd yn cael eu heffeithio."
'Sawl cwmni'
Mae awgrym bod Ineos yn un o'r cwmnïau sydd yn ystyried defnyddio'r safle, ond mae un arbenigwr yn y diwydiant moduro yn rhybuddio na fyddai'r cynnig i greu cerbydau 4x4 ym Mhen-y-bont yn creu digon o swyddi ar gyfer yr holl weithlu.
"Rydyn ni'n gweithio ar sawl posibilrwydd. Mae sawl cwmni rhyngwladol o Gymru wedi cysylltu â ni dros y dyddiau diwethaf i ddatgan eu diddordeb yn y safle," meddai Mr Skates.
"Mae hi'n andros o bwysig nawr bod Ford yn cydweithio â ni er mwyn penderfynu os yw'r safle yn addas ar gyfer y cwmnïau hyn."
Nid oedd awgrym pa gwmnïau oedd wedi cysylltu â'r llywodraeth na chwaith o ba ddiwydiant y daw'r cwmnïau hyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2019