Plaid Cymru'n ystyried cais Neil McEvoy i ailymuno
- Cyhoeddwyd
Mae'r panel disgyblu sy'n penderfynu os oes hawl gan Neil McEvoy ailymuno â Phlaid Cymru wedi methu â dod i gytundeb yn y cyfarfod cyntaf.
Fe wnaeth y panel gwrdd i ystyried y cais ddydd Llun, ond bydd rhaid cynnal ail gyfarfod yn sgil gwahaniaeth barn.
Mae Mr McEvoy, AC Canol De Cymru, wedi gwneud cais i ailymuno â'r blaid yn dilyn blwyddyn o waharddiad.
Dywedodd papur y Western Mail fod barn y panel wedi hollti, tra bod ffynhonnell o fewn y blaid wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod nhw wedi "rhedeg allan o amser" yn y cyfarfod ddydd Lun.
Cafodd y gwleidydd o Gaerdydd ei ddiarddel o Blaid Cymru yn dilyn ymchwiliad i'w ymddygiad yn ystod Cynhadledd Wanwyn Plaid Cymru yn 2017.
Ond cafodd y gwaharddiad gwreiddiol o 18 mis ei leihau i flwyddyn yn dilyn apêl.
Y gred yw bod y panel yn ystyried ymddygiad Mr McEvoy yn ystod y cyfnod yr oedd wedi ei ddiarddel ac yn gweithredu fel AC annibynnol.
'Ystyried y cais'
Roedd Mr McEvoy eisoes wedi cael ei ddiarddel o grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad, a pe bai'r cais yn llwyddiannus, yna fydd ACau'r blaid yn gwneud penderfyniad ar wahân ynglŷn â'i aelodaeth o'r grŵp.
Mae Mr McEvoy wedi gwrthod gwneud sylw.
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Ar ôl derbyn cais i ailymuno â'r blaid, mae pwyllgor aelodaeth, disgyblu a safonau Plaid Cymru yn ystyried y cais.
"Nid yw'n addas i ni wneud sylw pellach tra bo'r broses yn parhau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd16 Mai 2018
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2018