Neil McEvoy eisiau cynrychioli Plaid Cymru unwaith eto

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

McEvoy: 'Mae'n rhaid i bawb weithio gyda'i gilydd'

Mae'r Aelod Cynulliad Neil McEvoy wedi dweud ei fod yn gobeithio cynrychioli Plaid Cymru eto, unwaith daw ei waharddiad o'r blaid i ben.

Yn ôl Mr McEvoy, mae gan y blaid "gyfle arbennig" i ennill sedd Gorllewin Caerdydd os ydynt yn caniatáu iddo ddychwelyd.

Mae'r AC annibynnol yn debygol o wynebu gwrthwynebiad chwyrn gan rai o aelodau'r blaid.

Mae gwaharddiad Mr McEvoy o'r blaid yn dod i ben ar 19 Mawrth.

Cafodd y gwleidydd o Gaerdydd ei ddiarddel o Blaid Cymru yn dilyn ymchwiliad i'w ymddygiad yn ystod Cynhadledd Wanwyn Plaid Cymru yn 2017.

Cafodd y gwaharddiad gwreiddiol o 18 mis ei leihau i flwyddyn yn dilyn apêl.

Disgrifiad o’r llun,

Fe gynrychiolodd Neil McEvoy y Blaid Lafur fel cynghorydd cyn symud i Blaid Cymru

Dywedodd AC Canol De Cymru: "Rydw i'n credu yng Nghymru ac ym mhopeth mae'r blaid yn ei chynrychioli. Mae yna gyfle arbennig yng Ngorllewin Caerdydd i drechu'r Prif Weinidog."

Roedd Mr McEvoy o fewn 1,176 pleidlais o guro Mark Drakeford yn etholaeth Gorllewin Caerdydd yn Etholiad Cynulliad 2016.

Ychwanegodd ei fod yn bwriadu ceisio am y sedd unwaith eto yn 2021, a bod methu ar y cyfle i gipio sedd Prif Weinidog Cymru oherwydd y digwyddiadau arweiniodd at y diarddel yn "hurt".

Gwrthododd Mr McEvoy honiadau fod ei berthynas gyda'i gydweithwyr yn y rhanbarth ac o fewn y blaid wedi dirywio.

'Gwrthwynebu'n gryf'

Bydd unrhyw gais gan Mr McEvoy i ailymuno â Phlaid Cymru yn cael ei ystyried gan bwyllgor y blaid.

Dywedodd un ffynhonnell y byddai Mr McEvoy yn annhebygol o gael ei dderbyn pe bai'r penderfyniad yn cael ei roi ger bron ACau Plaid Cymru.

"Byddai rhai yn gwrthwynebu'n gryf pe bai'n cael ailymuno â grŵp y blaid yn y Cynulliad... mae rhai ohonom yn ei chael hi'n anodd iawn i weithio gydag ef o ddydd i ddydd," meddai.

Yn ôl llefarydd ar ran Plaid Cymru, mae Mr McEvoy yn rhydd i wneud cais i ailymuno â'r blaid ar ôl i'w waharddiad ddod i ben ar 19 Mawrth.