Gobaith creu 200 o swyddi ym Maes Awyr Caernarfon
- Cyhoeddwyd
Mae cyfarwyddwr y cwmni sy'n berchen Maes Awyr Caernarfon yn dweud ei fod yn gobeithio creu hyd at 200 o swyddi yno.
Y nod fyddai cynhyrchu tua 200 o awyrennau microlight mewn blwyddyn.
Fe gyhoeddodd Huw Jones Evans ei fod wedi prynu cwmni o Rydychen, P and M Aviation, a aeth i ddwylo'r gweinyddwyr yn gynharach eleni.
Roedd y cwmni hwnnw'n arfer gwerthu i gwsmeriaid mewn 34 o wledydd.
Dywedodd Mr Evans ei fod yn gobeithio dechrau'r gwaith cynhyrchu yng Nghaernarfon o fewn dau fis.
"Rydan ni'n bwriadu dod â'r cynhyrchwyr mwyaf yn y byd i Gaernarfon, a dod i gytundeb yn fuan iawn," meddai.
"Mae gan y cwmni rydan ni'n ei brynu infrastructure ar draws y byd.
"Creu swyddi ydi'n bwriad ni. Mae ganddon ni'r hangars a'r infrastructure i 'neud i hynny ddigwydd."
Mae bob awyren yn costio hyd at £100,000, medd Mr Evans, ac "mae yna ddiddordeb ofnadwy ar draws y byd".
Ychwanegodd y gallai'r cynlluniau arwain at greu swyddi sgiliau uchel mewn peirianneg fecanyddol a pheirianneg awyrennau "dros y pum mlynedd nesaf".
Dywedodd AS Arfon Hywel Williams bod y cynlluniau'n "gam positif iawn" gyda'r posibilrwydd o swyddi da i bobl leol.
"Dwi'n eithriadol o falch bod y diwydiant yma'n symud i Gaernarfon," meddai.
"Mae'r cwmni wedi bod yn weithredol ers rhai degawdau ac yn flaenllaw yn y maes felly newyddion da i Gaernarfon lle fyddan nhw'n adeiladu, a wedyn, mwya' tebyg, yn eu trwsio a'u cynnal a'u cadw hefyd."
Ychwanegodd bod y cynlluniau'n "gyson" â datblygiadau eraill yn y maes awyr yn y blynyddoedd diwethaf.
Mae gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru a hofrenyddion chwilio ac achub gogledd Cymru'n gweithredu o'r safle yn Ninas Dinlle ac mae yna ysgol hedfan yno hefyd.