Ydw i'n gallu ymdopi heb y gwin?

  • Cyhoeddwyd

Mae Rhiannon Boyle o Gaerdydd yn blogio, dolen allanol'n gyson am ei bywyd, ei theulu a'i phlant. Un pwnc a gafodd dipyn o ymateb ar ei blog a'i thudalen Instagram, oedd pan benderfynodd Rhiannon drafod alcohol gan ofyn y cwestiwn, a ydy mamau'n cael eu hannog i yfed?

Mae Rhiannon yn sgrifennu'n agored i Cymru Fyw am ei rhesymau dros roi'r gorau i yfed alcohol chwe mis yn ôl:

Ffynhonnell y llun, Gemma Griffiths Photography

Fy enw i yw Rhiannon a dwi DDIM yn alcoholig…

Tua chwe mis yn ôl sylweddolais mod i 'di dechra dibynnu ar alcohol. O'n i'n ei ddefnyddio i roi hwb i mi yn ystod amseroedd tywyll, pan o'n i dan straen, yn isel neu'n flinedig. Ond y broblem oedd, doedd alcohol ddim yn lleddfu'r teimladau yma, roedd o'n eu dwysau nhw.

Roedd rhaid i mi stopio.

Es i ati i ymchwilio'r cyffur caethiwus - ethanol - a'r niwed mae'n gallu gwneud. Sylweddolais faint o negeseuon positif am alcohol sy' 'na o fewn ein cymdeithas a'n diwylliant ni. Yn enwedig pan ti'n fam.

Mae'r gynrychiolaeth o'r fam fodern yn defnyddio alcohol fel modd i ymdopi yn un sy'n cael ei fwydo i ni'n gyson. Ar ein sianeli rhwydweithio cymdeithasol 'da ni'n cael ein bombardio â lluniau doniol a dyfyniadau megis - Mummy's wine o clock, yn ogystal â miloedd o memes yn dangos alcohol fel yr unig ffordd i ysgafnhau'r straen ar ddiwedd diwrnod prysur.

Ond ydi'r negeseuon 'ma jest yn normaleiddio dibyniaeth alcohol? Sut o'n i'n mynd i roi'r gorau iddi heb deimlo fel dynes wedi ei halltudio? Ac os dwi DDIM yn alcoholig, be' yn union ydw i?

Felly, pam mod i ddim yn fodlon cael fy adnabod fel alcoholig? Cywilydd? Stigma?

'Dim cywilydd'

Mae'n bwysig nodi tydi'r gair alcoholig ddim yn un budr. Does 'na ddim cywilydd bod yn gaeth i gyffur caethiwus. Yn anffodus, ma' 'na stigma o fewn ein cymdeithas lle ma' bod yn alcoholig yn cael ei weld fatha gwendid ac achlysur trasig, anobeithiol. Dwi ddim yn gweld hyn. Dwi'n edmygu'n fawr iawn y rhai sy' wedi gwella a goresgyn eu caethiwed gyda help llaw mudiadau megis AA.

Ond nid dyma stori fi.

Does gen i ddim hawl galw fy hun yn alcoholig. Doeddwn i ddim yn gaeth yn gorfforol. Na chwaith wedi cyrraedd y gwaelod isaf a cholli fy swydd, fy nghartref neu fy nheulu. Doeddwn i ddim yn yfed yn y bore a chuddio alcohol mewn mygiau. Doeddwn i ddim hyd yn oed yn yfed pob dydd.

Felly beth yw'r gwahaniaeth rhwng alcoholig a rhywun â phroblem yfed?

I ddechra' tydi'r gair alcoholig ddim yn cael ei ddefnyddio mewn diagnosis meddygol mwyach. Yn hytrach y term ADA sef Anhwylder Defnyddio Alcohol (yn Saesneg AUD - Alcohol Use Disorder) sy'n cael ei ddefnyddio. I fi, mae'r term yma yn lot fwy cynhwysol.

Wyt ti'n defnyddio alcohol mewn ffordd anhwylus? Yndw.

Ffynhonnell y llun, Gemma Griffiths Photography

Da chi'n gweld, ma' 'na sbectrwm. Ma' rhif deg falla yn rhywun fel yr 'alcoholig' ystrydebol dwi wedi'i ddisgrifio uchod, a ma' rhif un yn rhywun sy'n gallu cymedroli'n hawdd a mwynhau un neu ddau ddrinc cymdeithasol o bryd i'w gilydd.

O'n i rhywle yn y canol. Falla rhif chwech?

O'n i yn gallu mwynhau un neu ddwy glasiad cymdeithasol. O'dd hynny ddim yn beth anghyffredin i mi. Ond yn aml o'n i ddim yn gallu cymedroli ac o'n i'n gor-yfed i'r pwynt o'n i'n gwneud fy hun yn sâl yn gorfforol ac yn feddyliol.

'Ydw i'n gallu ymdopi heb y gwin'?

So, er mod i ddim yn alcoholig, mi oedd gynnai berthynas negyddol iawn ag alcohol, ac felly ar ôl trio a methu cymedroli, nes i roi'r gorau iddi. Pwy a ŵyr lle fysa'r lifft 'na wedi stopio? Nes i neidio ffwrdd ar lawr chwech. Oedd 'na bosibiliad fyswn i wedi cyrraedd llawr rhif deg? Falla.

Ydw i'n teimlo fel dynes wedi'i halltudio ers i mi roi'r gorau i yfed? Weithia. Ond dim digon i neud i fi fod isho mynd nôl. A beth am y straeniau dyddiol sydd ynghlwm â bod yn fam? Ydw i'n gallu ymdopi heb y gwin? Wel wrth gwrs. Ers i mi stopio yfed dwi'n ymdopi'n llawer gwell achos dwi'n ddigynnwrf, yn fwy egnïol, yn ffres ac yn lot hapusach.

Felly, er bod ein diwylliant a'r cwmnïoedd marchnata alcohol yn dweud wrthym ni mai'r ffordd i ymdopi, ymlacio neu gymdeithasu yw i yfed, dwi yma i ddeud wrtha chi 'di hynny DDIM yn wir.

Hefyd o ddiddordeb: